O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl!
Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw,
a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.
Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos,
a dagrau ar ei gruddiau;
nid oes ganddi neb i'w chysuro
o blith ei holl gariadon;
y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu,
ac wedi troi'n elynion iddi.
Aeth Jwda i gaethglud mewn trallod
ac mewn gorthrwm mawr;
y mae'n byw ymysg y cenhedloedd,
ond heb gael lle i orffwys;
y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddyd
yng nghanol ei gofidiau.
Y mae ffyrdd Seion mewn galar
am nad oes neb yn dod i'r gwyliau;
y mae ei holl byrth yn anghyfannedd,
a'i hoffeiriaid yn griddfan;
y mae ei merched ifainc yn drallodus,
a hithau mewn chwerwder.
Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni,
a llwyddodd ei gelynion,
oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arni
o achos amlder ei throseddau;
y mae ei phlant wedi mynd ymaith
yn gaethion o flaen y gelyn.
Diflannodd y cyfan o'i hanrhydedd
oddi wrth ferch Seion;
y mae ei thywysogion fel ewigod
sy'n methu cael porfa;
y maent wedi ffoi, heb nerth,
o flaen yr erlidwyr.
Yn nydd ei thrallod a'i chyni
y mae Jerwsalem yn cofio'r holl drysorau
oedd ganddi yn y dyddiau gynt.
Pan syrthiodd ei phobl i ddwylo'r gwrthwynebwyr,
heb neb i'w chynorthwyo,
edrychodd ei gwrthwynebwyr arni
a chwerthin o achos ei dinistr.
Pechodd Jerwsalem yn erchyll;
am hynny fe aeth yn ffieidd-dra.
Y mae pawb oedd yn ei pharchu yn ei dirmygu
am iddynt weld ei noethni;
y mae hithau'n griddfan
ac yn troi draw.
Yr oedd ei haflendid yng ngodre'i dillad;
nid ystyriodd ei thynged.
Yr oedd ei chwymp yn arswydus,
ac nid oedd neb i'w chysuro.
Edrych, O ARGLWYDD, ar fy nhrallod,
oherwydd y mae'r gelyn wedi gorchfygu.
Estynnodd y gelyn ei law
i gymryd ei holl drysorau;
yn wir, gwelodd hi y cenhedloedd
yn dod i'w chysegr—
rhai yr oeddit ti wedi eu gwahardd
yn dod i mewn i'th gynulliad!
Yr oedd ei phobl i gyd yn griddfan
wrth iddynt chwilio am fara;
yr oeddent yn cyfnewid eu trysorau am fwyd
i'w cynnal eu hunain.
Edrych, O ARGLWYDD, a gwêl,
oherwydd euthum yn ddirmyg.
Onid yw hyn o bwys i chwi sy'n mynd heibio?
Edrychwch a gwelwch;
a oes gofid fel y gofid
a osodwyd yn drwm arnaf,
ac a ddygodd yr ARGLWYDD arnaf
yn nydd ei lid angerddol?
Anfonodd dân o'r uchelder,
a threiddiodd i'm hesgyrn;
gosododd rwyd i'm traed,
a'm troi'n ôl;
gwnaeth fi yn ddiffaith
ac yn gystuddiol trwy'r dydd.
Clymwyd fy nhroseddau amdanaf;
plethwyd hwy â'i law ei hun;
gosododd ei iau ar fy ngwddf,
ac ysigodd fy nerth;
rhoddodd yr Arglwydd fi yng ngafael rhai
na allaf godi yn eu herbyn.
Diystyrodd yr Arglwydd
yr holl ryfelwyr oedd ynof;
galwodd ar fyddin i ddod yn f'erbyn,
i ddifetha fy ngwŷr ifainc;
fel y sethrir grawnwin y sathrodd yr Arglwydd
y forwyn, merch Jwda.
O achos hyn yr wyf yn wylo,
ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau,
oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuro
ac yn fy nghynnal;
y mae fy mhlant wedi eu hanrheithio
am fod y gelyn wedi gorchfygu.
Estynnodd Seion ei dwylo,
ond nid oedd neb i'w chysuro;
gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynion
amgylchynu Jacob o bob cyfeiriad;
yr oedd Jerwsalem wedi mynd
yn ffieidd-dra yn eu mysg.
Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn,
ond gwrthryfelais yn erbyn ei air.
Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd,
ac edrychwch ar fy nolur:
aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.
Gelwais ar fy nghariadon,
ond y maent hwy wedi fy mradychu;
trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas,
wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.
Edrych, O ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;
y mae f'ymysgaroedd mewn poen,
a'm calon wedi cyffroi,
oherwydd yr wyf wedi gwrthryfela i'r eithaf.
O'r tu allan, y mae'r cleddyf wedi gwneud rhai'n amddifad;
yn y tŷ, nid oes dim ond marwolaeth.
Gwrandewch pan wyf yn griddfan,
heb neb i'm cysuro.
Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb,
a llawenhau am iti wneud hyn;
ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist,
a byddant hwythau fel finnau.
Gad i'w holl ddrygioni ddod i'th sylw,
a dwg gosb arnynt,
fel y cosbaist fi am fy holl droseddau;
oherwydd y mae fy ngriddfannau'n aml,
a'm calon yn gystuddiol.