Yna daethant yn ôl at Josua a dweud wrtho, “Peidied y fyddin gyfan â mynd i fyny; os â dwy neu dair mil o ddynion i fyny, fe orchfygant Ai. Paid â llusgo'r holl fyddin i fyny yno, oherwydd ychydig ydynt.” Aeth tua thair mil o'r fyddin i fyny yno, ond ffoesant o flaen dynion Ai. Lladdodd dynion Ai ryw dri dwsin ohonynt trwy eu hymlid o'r porth hyd at Sebarim, a'u lladd ar y llechwedd. Suddodd calon y bobl a throi megis dŵr. Rhwygodd Josua ei fantell, a syrthiodd ar ei wyneb ar lawr gerbron arch yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a'r un modd y gwnaeth henuriaid Israel, gan luchio llwch ar eu pennau. Dywedodd Josua, “Och! F'Arglwydd DDUW, pam y trafferthaist i ddod â'r bobl hyn dros yr Iorddonen, i'n rhoi yn llaw'r Amoriaid i'n difetha? Gresyn na fuasem wedi bodloni aros yr ochr draw i'r Iorddonen. O Arglwydd, beth a ddywedaf, wedi i'r Israeliaid droi eu cefn o flaen eu gelynion? Pan glyw y Canaaneaid a holl drigolion y wlad, fe'n hamgylchynant, a dileu ein henw o'r wlad; a beth a wnei di am d'enw mawr?” Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, “Cod; pam yr wyt ti wedi syrthio ar dy wyneb fel hyn?
Darllen Josua 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Josua 7:3-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos