Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 6:1-20

Josua 6:1-20 BCND

Yr oedd Jericho wedi ei chloi'n dynn rhag yr Israeliaid, heb neb yn mynd i mewn nac allan. Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, “Edrych, yr wyf wedi rhoi Jericho a'i brenin a'i rhyfelwyr grymus yn dy law. Ewch chwi, yr holl filwyr, o amgylch y ddinas un waith, a gwneud hynny am chwe diwrnod. A bydded i saith offeiriad gario saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr arch. Yna ar y seithfed dydd amgylchwch y ddinas seithwaith, a'r offeiriaid yn seinio'r utgyrn. Pan ddaw caniad hir ar y corn hwrdd, a chwithau'n clywed sain yr utgorn, bloeddied y fyddin gyfan â bloedd uchel, ac fe syrth mur y ddinas i lawr; yna aed pob un o'r fyddin i fyny ar ei gyfer.” Galwodd Josua fab Nun ar yr offeiriaid a dweud wrthynt, “Codwch arch y cyfamod, a bydded i saith offeiriad gario saith utgorn o gorn hwrdd o flaen arch yr ARGLWYDD.” Dywedodd wrth y fyddin, “Ewch ymlaen ac amgylchwch y ddinas, gyda'r rhai arfog yn mynd o flaen arch yr ARGLWYDD.” Ac wedi i Josua lefaru wrth y fyddin, cerddodd y saith offeiriad oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr ARGLWYDD, gan seinio'r utgyrn, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD yn eu dilyn. Yr oedd y gwŷr arfog yn mynd o flaen yr offeiriaid oedd yn seinio'r utgyrn, a'r ôl-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd. Yr oedd Josua wedi gorchymyn i'r fyddin, “Peidiwch â gweiddi na chodi eich llais nac yngan yr un gair tan y diwrnod y dywedaf wrthych am floeddio; yna bloeddiwch.” Aethant ag arch yr ARGLWYDD o amgylch y ddinas un waith, ac yna dychwelyd i'r gwersyll i fwrw'r nos. Cododd Josua'n fore, a chymerodd yr offeiriaid arch yr ARGLWYDD; yna aeth y saith offeiriad, a oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd, o flaen arch yr ARGLWYDD gan seinio'r utgyrn, gyda'r gwŷr arfog o'u blaen a'r ôl-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd. Ar ôl amgylchu'r ddinas un waith ar yr ail ddiwrnod, aethant yn eu hôl i'r gwersyll. Gwnaethant felly am chwe diwrnod. Ar y seithfed dydd, codasant gyda'r wawr ac amgylchu'r ddinas yr un modd saith o weithiau; y diwrnod hwnnw'n unig yr amgylchwyd y ddinas seithwaith. Yna ar y seithfed tro, pan seiniodd yr offeiriaid yr utgyrn, dywedodd Josua wrth y fyddin, “Bloeddiwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chwi. Y mae'r ddinas a phopeth sydd ynddi i fod yn ddiofryd i'r ARGLWYDD. Rahab y butain yn unig sydd i gael byw, hi a phawb sydd gyda hi yn y tŷ, am iddi guddio'r negeswyr a anfonwyd gennym. Ond gochelwch chwi rhag yr hyn sy'n ddiofryd; peidiwch â chymryd ohono ar ôl ei ddiofrydu, rhag gwneud gwersyll Israel yn ddiofryd a dwyn helbul arno. Y mae'r holl arian ac aur, a'r offer pres a haearn, yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac i fynd i drysorfa'r ARGLWYDD.” Bloeddiodd y bobl pan seiniodd yr utgyrn; ac wedi i'r fyddin glywed sain yr utgyrn, a bloeddio â bloedd uchel, syrthiodd y mur i lawr ac aeth y fyddin i fyny am y ddinas, bob un ar ei gyfer, a'i chipio.