Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jona yr eildro a dweud, “Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara wrthi y neges a ddywedaf fi wrthyt.” Cododd Jona a mynd i Ninefe yn ôl gair yr ARGLWYDD. Yr oedd Ninefe'n ddinas fawr iawn, yn daith tridiau ar ei thraws. Yna dechreuodd Jona fynd trwy'r ddinas, ac wedi mynd daith un diwrnod cyhoeddodd, “Ymhen deugain diwrnod fe ddymchwelir Ninefe.” Credodd pobl Ninefe yn Nuw, a chyhoeddasant ympryd a gwisgo sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt.
Darllen Jona 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jona 3:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos