Daeth gair yr ARGLWYDD at Jona fab Amittai, a dweud, “Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara yn ei herbyn; oherwydd daeth ei drygioni i'm sylw.” Ond cododd Jona i ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD i Tarsis. Aeth i lawr i Jopa a chael llong yn mynd i Tarsis, ac wedi talu ei dreuliau aeth arni i fynd gyda hwy i Tarsis oddi wrth yr ARGLWYDD. Ond cododd yr ARGLWYDD wynt nerthol ar y môr, a bu storm mor arw ar y môr nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio. Yr oedd y morwyr wedi dychryn, a phob un yn gweiddi ar ei dduw, a thaflasant y gêr oedd ar y llong i'r môr i'w hysgafnu. Ond yr oedd Jona wedi mynd i grombil y llong i orwedd, ac wedi cysgu. A daeth capten y llong ato a gofyn, “Beth yw dy feddwl, yn cysgu? Cod, a galw ar dy dduw; efallai y meddylia'r duw amdanom, rhag ein difetha.”
Darllen Jona 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jona 1:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos