Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Joel 2:18-32

Joel 2:18-32 BCND

Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir, a thrugarhau wrth ei bobl. Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl, “Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olew nes eich digoni; ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd. Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych, a'i yrru i dir sych a diffaith, â'i reng flaen at fôr y dwyrain a'i reng ôl at fôr y gorllewin; bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi, am iddo ymorchestu.” Paid ag ofni, ddaear; bydd lawen a gorfoledda, oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion. Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion, oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas; bydd y coed yn dwyn ffrwyth, a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth. Blant Seion, byddwch lawen, gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw; oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol; fe dywallt y glawogydd ichwi, y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen. Bydd y llawr dyrnu yn llawn o ŷd a'r cafnau yn orlawn o win ac olew. “Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedd a ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr, y locust difaol a'r cyw locust, fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.” “Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni, a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw, a wnaeth ryfeddod â chwi. Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach. Cewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw, ac nid neb arall. Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.” ARGLWYDD “Ar ôl hyn tywalltaf fy ysbryd ar bawb; bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion, a'ch gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau. Hyd yn oed ar y gweision a'r morynion fe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.” “Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear, gwaed a thân a cholofnau mwg. Troir yr haul yn dywyllwch a'r lleuad yn waed cyn i ddydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD ddod. A bydd pob un sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub, oherwydd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem bydd rhai dihangol, fel y dywedodd yr ARGLWYDD, ac ymysg y gwaredigion rai a elwir gan yr ARGLWYDD.”