Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Joel 1:1-20

Joel 1:1-20 BCND

Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Joel fab Pethuel. Clywch hyn, henuriaid, gwrandewch, holl drigolion y wlad. A ddigwyddodd peth fel hyn yn eich dyddiau chwi, neu yn nyddiau eich hynafiaid? Dywedwch am hyn wrth eich plant, a dyweded eich plant wrth eu plant, a'u plant hwythau wrth y genhedlaeth nesaf. Yr hyn a adawodd y cyw locust, fe'i bwytaodd y locust sydd ar ei dyfiant; yr hyn a adawodd y locust ar ei dyfiant, fe'i bwytaodd y locust mawr; a'r hyn a adawodd y locust mawr, fe'i bwytaodd y locust difaol. Deffrowch feddwon, ac wylwch; galarwch, bob yfwr gwin, am y gwin newydd a dorrwyd ymaith o'ch genau. Oherwydd daeth cenedl i oresgyn fy nhir, a honno'n un gref a dirifedi; dannedd llew yw ei dannedd, ac y mae ganddi gilddannedd llewes. Maluriodd fy ngwinwydd, a darnio fy nghoed ffigys; rhwygodd ymaith y rhisgl yn llwyr, ac aeth y cangau'n wynion. Galara di fel gwyryf yn gwisgo sachliain am ddyweddi ei hieuenctid. Pallodd y bwydoffrwm a'r diodoffrwm yn nhŷ'r ARGLWYDD; y mae'r offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru. Anrheithiwyd y tir, y mae'r ddaear yn galaru, oherwydd i'r grawn gael ei ddifa, ac i'r gwin ballu, ac i'r olew sychu. Safwch mewn braw, amaethwyr, galarwch, winwyddwyr, am y gwenith a'r haidd; oherwydd difawyd cynhaeaf y maes. Gwywodd y winwydden, a deifiwyd y ffigysbren. Y prennau pomgranad, y palmwydd a'r coed afalau— y mae holl brennau'r maes wedi gwywo. A diflannodd llawenydd o blith y bobl. Gwisgwch sachliain a galaru, offeiriaid, codwch gwynfan, weinidogion yr allor. Ewch i dreulio'r nos mewn sachliain, weinidogion fy Nuw, oherwydd i'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm gael eu hatal o dŷ eich Duw. Cyhoeddwch ympryd, galwch gynulliad. Chwi henuriaid, cynullwch holl drigolion y wlad i dŷ'r ARGLWYDD eich Duw, a llefwch ar yr ARGLWYDD. Och y fath ddiwrnod! Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog. Oni ddiflannodd y bwyd o flaen ein llygaid, a dedwyddwch a llawenydd o dŷ ein Duw? Y mae'r had yn crebachu o dan y tywyrch, yr ysgubor wedi ei chwalu a'r granar yn adfeilion, am i'r grawn fethu. Y fath alar gan yr anifeiliaid! Y mae'r gyrroedd gwartheg mewn dryswch am eu bod heb borfa; ac y mae'r diadelloedd defaid yn darfod. Arnat ti, ARGLWYDD, yr wyf yn llefain, oherwydd difaodd tân borfeydd yr anialwch, a llosgodd fflam holl goed y maes. Y mae'r anifeiliaid gwylltion yn llefain arnat, oherwydd sychodd y nentydd a difaodd tân borfeydd yr anialwch.