Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 9:1-35

Job 9:1-35 BCND

Atebodd Job: “Gwn yn sicr fod hyn yn wir, na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw. Os myn ymryson ag ef, nid etyb ef unwaith mewn mil. Y mae'n ddoeth a chryf; pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus? Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod, ac yn eu dymchwel yn ei lid. Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle, a chryna'i cholofnau. Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio â chodi, ac yn gosod sêl ar y sêr. Taenodd y nefoedd ei hunan, a sathrodd grib y môr. Creodd yr Arth ac Orion, Pleiades a chylch Sêr y De. Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, a rhyfeddodau dirifedi. “Pan â heibio imi, nis gwelaf, a diflanna heb i mi ddirnad. Os cipia, pwy a'i rhwystra? Pwy a ddywed wrtho, ‘Beth a wnei?’? Ni thry Duw ei lid ymaith; ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed. Pa faint llai yr atebwn i ef, a dadlau gair am air ag ef? Hyd yn oed pe byddwn gyfiawn, ni'm hatebid, dim ond ymbil am drugaredd gan fy marnwr. Pe gwysiwn ef ac yntau'n ateb, ni chredwn y gwrandawai arnaf. Canys heb reswm y mae'n fy nryllio, ac yn amlhau f'archollion yn ddiachos. Nid yw'n rhoi cyfle imi gymryd fy anadl, ond y mae'n fy llenwi â chwerwder. “Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf; os barn, pwy a'i geilw i drefn? Pe bawn gyfiawn, condemniai fi â'm geiriau fy hun; pe bawn ddi-fai, dangosai imi gyfeiliorni. Di-fai wyf, ond nid wyf yn malio amdanaf fy hun; yr wyf yn ffieiddio fy mywyd. Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedaf ei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus. Os dinistr a ladd yn ddisymwth, fe chwardd am drallod y diniwed. Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus, fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr. Os nad ef, pwy yw? “Y mae fy nyddiau'n gyflymach na rhedwr; y maent yn diflannu heb weld daioni. Y maent yn gwibio fel llongau o frwyn, fel eryr yn disgyn ar gelain. Os dywedaf, ‘Anghofiaf fy nghwyn, newidiaf fy mhryd a byddaf lawen’, eto arswydaf rhag fy holl ofidiau; gwn na'm hystyri'n ddieuog. A bwrw fy mod yn euog, pam y llafuriaf yn ofer? Os ymolchaf â sebon, a golchi fy nwylo â soda, yna tefli fi i'r ffos, a gwna fy nillad fi'n ffiaidd. “Nid dyn yw ef fel fi, fel y gallaf ei ateb, ac y gallwn ddod ynghyd i ymgyfreithio. O na fyddai un i dorri'r ddadl rhyngom, ac i osod ei law arnom ein dau, fel y symudai ei wialen oddi arnaf, ac fel na'm dychrynid gan ei arswyd! Yna llefarwn yn eofn. Ond nid felly y caf fy hun.”