Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 9

9
1Atebodd Job:
2“Gwn yn sicr fod hyn yn wir,
na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw.
3Os myn ymryson ag ef,
nid etyb ef unwaith mewn mil.
4Y mae'n ddoeth a chryf;
pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus?
5Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod,
ac yn eu dymchwel yn ei lid.
6Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle,
a chryna'i cholofnau.
7Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio â chodi,
ac yn gosod sêl ar y sêr.
8Taenodd y nefoedd ei hunan,
a sathrodd grib y môr.
9Creodd yr Arth ac Orion,
Pleiades a chylch Sêr y De.
10Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,
a rhyfeddodau dirifedi.
11“Pan â heibio imi, nis gwelaf,
a diflanna heb i mi ddirnad.
12Os cipia, pwy a'i rhwystra?
Pwy a ddywed wrtho, ‘Beth a wnei?’?
13Ni thry Duw ei lid ymaith;
ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed.
14Pa faint llai yr atebwn i ef,
a dadlau gair am air ag ef?
15Hyd yn oed pe byddwn gyfiawn, ni'm hatebid#9:15 Felly Groeg. Hebraeg, nid atebwn.,
dim ond ymbil am drugaredd gan fy marnwr.
16Pe gwysiwn ef ac yntau'n ateb,
ni chredwn y gwrandawai arnaf.
17Canys heb reswm y mae'n fy nryllio,
ac yn amlhau f'archollion yn ddiachos.
18Nid yw'n rhoi cyfle imi gymryd fy anadl,
ond y mae'n fy llenwi â chwerwder.
19“Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf;
os barn, pwy a'i geilw i drefn#9:19 Felly Groeg. Hebraeg, a'm geilw.?
20Pe bawn gyfiawn, condemniai fi â'm geiriau fy hun;
pe bawn ddi-fai, dangosai imi gyfeiliorni.
21Di-fai wyf, ond nid wyf yn malio amdanaf fy hun;
yr wyf yn ffieiddio fy mywyd.
22Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedaf
ei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus.
23Os dinistr a ladd yn ddisymwth,
fe chwardd am drallod y diniwed.
24Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus,
fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr.
Os nad ef, pwy yw?#9:24 Y Fersiynau heb Os… yw?
25“Y mae fy nyddiau'n gyflymach na rhedwr;
y maent yn diflannu heb weld daioni.
26Y maent yn gwibio fel llongau o frwyn,
fel eryr yn disgyn ar gelain.
27Os dywedaf, ‘Anghofiaf fy nghwyn,
newidiaf fy mhryd a byddaf lawen’,
28eto arswydaf rhag fy holl ofidiau;
gwn na'm hystyri'n ddieuog.
29A bwrw fy mod yn euog,
pam y llafuriaf yn ofer?
30Os ymolchaf â sebon,
a golchi fy nwylo â soda,
31yna tefli fi i'r ffos,
a gwna fy nillad fi'n ffiaidd.
32“Nid dyn yw ef fel fi, fel y gallaf ei ateb,
ac y gallwn ddod ynghyd i ymgyfreithio.
33O na fyddai un i dorri'r ddadl rhyngom,
ac i osod ei law arnom ein dau,
34fel y symudai ei wialen oddi arnaf,
ac fel na'm dychrynid gan ei arswyd!
35Yna llefarwn yn eofn.
Ond nid felly y caf fy hun.”

Dewis Presennol:

Job 9: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd