Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Job: “A ddylai un sy'n dadlau â'r Hollalluog fod yn ystyfnig? Caiff yr un sy'n ymryson â Duw ateb am hynny.” Yna atebodd Job: “Un dibwys wyf fi; beth allaf ei ddweud? Rhof fy llaw ar fy ngheg. Yr wyf wedi llefaru unwaith, ac nid atebaf eto; do ddwywaith, ac ni chwanegaf.” Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt: “Gwna dy hun yn barod i'r ornest; fe holaf fi di, a chei dithau ateb. A wyt ti'n gwadu fy mod yn iawn, ac yn fy nghondemnio, i'th gyfiawnhau dy hun?
Darllen Job 40
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Job 40:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos