Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 37

37
1“Am hyn hefyd y mae fy nghalon
yn cynhyrfu,
ac yn llamu o'i lle.
2Gwrandewch ar daran ei lais,
a'r atsain a ddaw o'i enau.
3Y mae'n ei yrru ar draws yr wybren,
ac yn gyrru ei fellt i gilfachau'r byd.
4Ar eu hôl fe rua;
tarana â'i lais mawr,
ac nid yw'n eu hatal
pan glywir ei lais.
5Tarana Duw yn rhyfeddol â'i lais;
gwna wyrthiau, y tu hwnt i'n deall.
6Fe ddywed wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear’,
ac wrth y glaw a'r cawodydd, ‘Trymhewch’.
7Y mae pob un yn cael ei gau i mewn,
a phopeth a wnânt yn cael ei atal.
8Â'r anifeiliaid i'w ffeuau,
ac aros yn eu gwâl.
9Daw'r corwynt allan o'i ystafell,
ac oerni o'r tymhestloedd.
10Daw anadl Duw â'r rhew,
a rhewa'r llynnoedd yn galed.
11Lleinw'r cwmwl hefyd â gwlybaniaeth,
a gwasgara'r cwmwl ei fellt.
12Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn,
i wneud y cyfan a ddywed wrthynt,
dros wyneb daear gyfan.
13“Gwna hyn naill ai fel cosb,
neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd.
14“Gwrando ar hyn, Job;
aros ac ystyria ryfeddodau Duw.
15A wyt ti'n deall sut y mae Duw yn trefnu,
ac yn gwneud i'r mellt fflachio yn ei gwmwl?
16A wyt ti'n deall symudiadau'r cymylau,
rhyfeddodau un perffaith ei wybodaeth?
17Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad
pan fydd y ddaear yn swrth dan wynt y de,
18a fedrit ti, fel ef, daenu'r wybren,
sy'n galed fel drych o fetel tawdd?
19Dywed wrthym beth i'w ddweud wrtho;
oherwydd y tywyllwch ni allwn ni drefnu'n hachos.
20A ellir dweud wrtho, ‘Yr wyf fi am lefaru’,
neu fynegi iddo, ‘Y mae hwn am siarad’?
21“Ond yn awr, ni all neb edrych ar y goleuni
pan yw'n ddisglair yn yr awyr,
a'r gwynt wedi dod a'i chlirio.
22Disgleiria o'r gogledd fel aur;
o gwmpas Duw y mae ysblander ofnadwy.
23Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog,
y mae'n fawr ei nerth;
yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam.
24Am hyn, y mae pawb yn ei ofni,
a phob un doeth yn edrych ato#37:24 Cymh. Groeg. Hebraeg, nid edrych..”

Dewis Presennol:

Job 37: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda