Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 36

36
1Aeth Elihu ymlaen i ddweud:
2“Aros ychydig, imi gael dangos iti
fod eto eiriau i'w dweud dros Dduw.
3Yr wyf yn tynnu fy ngwybodaeth o bell,
i dystio bod fy Ngwneuthurwr yn gyfiawn.
4Yn wir nid yw fy ngeiriau'n gelwydd;
un diogel ei wybodaeth sydd o'th flaen.
5Edrych yma, Duw yw'r Un Cadarn;
nid yw'n anystyriol, eithr mawr a chadarn yw mewn deall.
6Nid yw'n gadael i'r drygionus gael byw,
ond fe gynnal achos y gwan.
7Ni thry ei olwg oddi ar y cyfiawn,
ond gyda brenhinoedd ar orsedd
cânt eistedd am byth, a llwyddo.
8Os rhwymir hwy mewn cadwynau,
a'u dal mewn gefynnau gofid,
9yna fe ddengys iddynt eu gweithred
a'u trosedd, am iddynt fod yn ffroenuchel.
10Rhydd rybudd iddynt am ddisgyblaeth,
a dywed wrthynt am droi oddi wrth eu drygioni.
11Os gwrandawant, a bod yn ufudd,
fe gânt dreulio'u dyddiau mewn llwyddiant,
a'u blynyddoedd mewn hyfrydwch.
12Os gwrthodant wrando, difethir hwy gan gleddyf,
a darfyddant heb ddysgu dim.
13“Y mae'r rhai annuwiol yn ennyn dig,
ac ni cheisiant gymorth mewn caethiwed.
14Y maent yn marw'n ifanc,
wedi treulio'u bywyd gyda phuteinwyr cysegr.
15Fe wareda ef y rhai trallodus trwy eu gofid,
a'u dysgu trwy orthrymder.
16“Er iddo geisio dy ddenu oddi wrth ofid,
a'th ddwyn o le cyfyng i ehangder,
a hulio dy fwrdd â phob braster,
17yr wyt yn llawn o farn ar y drygionus,
wedi dy feddiannu gan farn a chyfiawnder.
18Gwylia rhag cael dy hudo gan ddigonedd,
a phaid â gadael i faint y rhodd dy ddenu.
19A fydd dy gyfoeth yn dy helpu mewn cyfyngder,
neu holl adnoddau dy nerth?
20Paid â dyheu am y nos,
pan symudir pobloedd o'u lle.
21Gwylia rhag troi at ddrygioni,
oherwydd dewisi hyn yn hytrach na gofid.
22Sylwa mor aruchel yw Duw yn ei nerth;
pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef?
23Pwy a wylia arno yn ei ffordd?
a phwy a ddywed, ‘Yr wyt yn gwneud yn anghyfiawn’?
24“Cofia di ganmol ei waith,
y gwaith y canodd pobl amdano.
25Y mae pawb yn edrych arno,
ac yn ei weld o bell.
26Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall,
a'i flynyddoedd yn ddirifedi.
27Y mae'n cronni'r defnynnau dŵr,
ac yn eu dihidlo'n law mân fel tarth;
28fe'u tywelltir o'r cymylau,
i ddisgyn yn gawodydd ar bobl.
29A ddeall neb daeniad y cwmwl,
a'r tyrfau sydd yn ei babell?
30Edrych fel y taena'i darth#36:30 Felly Aramaeg. Hebraeg, oleuni. o'i gwmpas,
ac y cuddia waelodion y môr.
31Â'r rhain y diwalla ef y bobloedd,
a rhoi iddynt ddigonedd o fwyd.
32Deil y mellt yn ei ddwylo,
a'u hanelu i gyrraedd eu nod.
33Dywed ei drwst amdano,
fod angerdd ei lid yn erbyn drygioni.”

Dewis Presennol:

Job 36: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda