“Gwneuthum gytundeb â'm llygaid i beidio â llygadu merch. Beth yw fy nhynged gan Dduw oddi uchod, a'm cyfran gan yr Hollalluog o'r uchelder? Oni ddaw dinistr ar y twyllodrus, ac aflwydd i'r drygionus? Onid yw ef yn sylwi ar fy ffyrdd, ac yn cyfrif fy nghamau? “A euthum ar ôl oferedd, a phrysuro fy ngherddediad i dwyllo? Pwyser fi mewn cloriannau cywir i Dduw gael gweld fy nghywirdeb. Os gwyrodd fy ngham oddi ar y ffordd, a'm calon yn dilyn fy llygaid, neu os glynodd unrhyw aflendid wrth fy nwylo, yna caiff arall fwyta'r hyn a heuais, a diwreiddir yr hyn a blennais. “Os denwyd fy nghalon gan ddynes, ac os bûm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog, yna caiff fy ngwraig innau falu blawd i arall, a chaiff dieithryn orwedd gyda hi. Oherwydd byddai hynny'n anllad, ac yn drosedd i'r barnwyr; byddai fel tân yn difa'n llwyr, ac yn dinistrio fy holl gynnyrch.
Darllen Job 31
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Job 31:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos