Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni. Meddai Job: “Difoder y dydd y'm ganwyd, a'r nos y dywedwyd, ‘Cenhedlwyd bachgen’. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch; na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod, ac na lewyrched goleuni arno. Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu; arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd. Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno; na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn, ac na ddoed i blith nifer y misoedd. Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth, heb sŵn gorfoledd ynddi. Melltithier hi gan y rhai sy'n melltithio'r dyddiau, y rhai sy'n medru cyffroi'r lefiathan. Tywylled sêr ei chyfddydd, disgwylied am oleuni heb ei gael, ac na weled doriad gwawr, am na chaeodd ddrysau croth fy mam, na chuddio gofid o'm golwg.
Darllen Job 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Job 3:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos