“Cytuna ag ef, a chei lwyddiant; trwy hyn y daw daioni i ti. Derbyn gyfarwyddyd o'i enau, a chadw ei eiriau yn dy galon. Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd, a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell, os ystyri aur fel pridd, aur Offir fel cerrig y nentydd, yna bydd yr Hollalluog yn aur iti, ac yn arian pur. Yna cei ymhyfrydu yn yr Hollalluog, a dyrchafu dy wyneb at Dduw. Cei weddïo arno, ac fe'th wrendy, a byddi'n cyflawni dy addunedau. Pan wnei gynllun, fe lwydda iti, a llewyrcha goleuni ar dy ffyrdd. Fe ddarostyngir y rhai a ystyri'n falch; yr isel ei fryd a wareda ef. Fe achub ef y dieuog; achubir ef am fod ei ddwylo'n lân.”
Darllen Job 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Job 22:21-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos