Wrth fynd ar ei daith, gwelodd Iesu ddyn dall o'i enedigaeth. Gofynnodd ei ddisgyblion iddo, “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni'n ddall?” Atebodd Iesu, “Ni phechodd hwn na'i rieni chwaith, ond fe amlygir gweithredoedd Duw ynddo ef. Y mae'n rhaid i ni gyflawni gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i tra mae hi'n ddydd. Y mae'r nos yn dod, pan na all neb weithio. Tra byddaf yn y byd, goleuni'r byd ydwyf.” Wedi dweud hyn poerodd ar y llawr a gwneud clai o'r poeryn; yna irodd lygaid y dyn â'r clai, ac meddai wrtho, “Dos i ymolchi ym mhwll Siloam” (enw a gyfieithir Anfonedig). Aeth y dyn yno ac ymolchi, a phan ddaeth yn ôl yr oedd yn gweld.
Darllen Ioan 9
Gwranda ar Ioan 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 9:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos