Wrth fynd ar ei daith, gwelodd Iesu ddyn dall o'i enedigaeth. Gofynnodd ei ddisgyblion iddo, “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni'n ddall?” Atebodd Iesu, “Ni phechodd hwn na'i rieni chwaith, ond fe amlygir gweithredoedd Duw ynddo ef. Y mae'n rhaid i ni gyflawni gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i tra mae hi'n ddydd. Y mae'r nos yn dod, pan na all neb weithio. Tra byddaf yn y byd, goleuni'r byd ydwyf.” Wedi dweud hyn poerodd ar y llawr a gwneud clai o'r poeryn; yna irodd lygaid y dyn â'r clai, ac meddai wrtho, “Dos i ymolchi ym mhwll Siloam” (enw a gyfieithir Anfonedig). Aeth y dyn yno ac ymolchi, a phan ddaeth yn ôl yr oedd yn gweld. Dyma'i gymdogion, felly, a'r bobl oedd wedi arfer o'r blaen ei weld fel cardotyn, yn dweud, “Onid hwn yw'r dyn fyddai'n eistedd i gardota?” Meddai rhai, “Hwn yw ef.” “Na,” meddai eraill, “ond y mae'n debyg iddo.” Ac meddai'r dyn ei hun, “Myfi yw ef.” Gofynasant iddo felly, “Sut yr agorwyd dy lygaid di?” Atebodd yntau, “Y dyn a elwir Iesu a wnaeth glai ac iro fy llygaid a dweud wrthyf, ‘Dos i Siloam i ymolchi.’ Ac wedi imi fynd yno ac ymolchi, cefais fy ngolwg.”
Darllen Ioan 9
Gwranda ar Ioan 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 9:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos