Oherwydd fy nghnawd i yw'r gwir fwyd, a'm gwaed i yw'r wir ddiod. Y mae'r sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. Y Tad byw a'm hanfonodd i, ac yr wyf fi'n byw oherwydd y Tad; felly'n union bydd y sawl sy'n fy mwyta i yn byw o'm herwydd innau. Dyma'r bara a ddisgynnodd o'r nef. Nid yw hwn fel y bara a fwytaodd yr hynafiaid; buont hwy farw. Caiff y sawl sy'n bwyta'r bara hwn fyw am byth.” Dywedodd Iesu y pethau hyn wrth ddysgu yn y synagog yng Nghapernaum. Wedi iddynt ei glywed, meddai llawer o'i ddisgyblion, “Geiriau caled yw'r rhain. Pwy all wrando arnynt?” Gwyddai Iesu ynddo'i hun fod ei ddisgyblion yn grwgnach am ei eiriau, ac meddai wrthynt, “A yw hyn yn peri tramgwydd i chwi? Beth ynteu os gwelwch Fab y Dyn yn esgyn i'r lle'r oedd o'r blaen? Yr Ysbryd sy'n rhoi bywyd; nid yw'r cnawd yn tycio dim. Y mae'r geiriau yr wyf fi wedi eu llefaru wrthych yn ysbryd ac yn fywyd. Ac eto y mae rhai ohonoch sydd heb gredu.” Yr oedd Iesu, yn wir, yn gwybod o'r cychwyn pwy oedd y rhai oedd heb gredu, a phwy oedd yr un a'i bradychai. “Dyna pam,” meddai, “y dywedais wrthych na allai neb ddod ataf fi heb i'r Tad beri iddo wneud hynny.” O'r amser hwn trodd llawer o'i ddisgyblion yn eu holau a pheidio mwyach â mynd o gwmpas gydag ef. Yna gofynnodd Iesu i'r Deuddeg, “A ydych chwithau hefyd, efallai, am fy ngadael?” Atebodd Simon Pedr ef, “Arglwydd, at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti, ac yr ydym ni wedi dod i gredu a gwybod mai ti yw Sanct Duw.” Atebodd Iesu hwy, “Onid myfi a'ch dewisodd chwi'r Deuddeg? Ac eto, onid diafol yw un ohonoch?” Yr oedd yn siarad am Jwdas fab Simon Iscariot, oherwydd yr oedd hwn, ac yntau'n un o'r Deuddeg, yn mynd i'w fradychu ef.
Darllen Ioan 6
Gwranda ar Ioan 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 6:55-71
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos