Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae gan y sawl sy'n credu fywyd tragwyddol. Myfi yw bara'r bywyd. Bwytaodd eich hynafiaid y manna yn yr anialwch, ac eto buont farw. Ond dyma'r bara sy'n disgyn o'r nef, er mwyn i rywun gael bwyta ohono a pheidio â marw. Myfi yw'r bara bywiol hwn a ddisgynnodd o'r nef. Caiff pwy bynnag sy'n bwyta o'r bara hwn fyw am byth. A'r bara sydd gennyf fi i'w roi yw fy nghnawd; a'i roi a wnaf dros fywyd y byd.” Yna dechreuodd yr Iddewon ddadlau'n daer â'i gilydd, gan ddweud, “Sut y gall hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?” Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, oni fwytewch gnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, ni bydd gennych fywyd ynoch. Y mae gan y sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol, a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf. Oherwydd fy nghnawd i yw'r gwir fwyd, a'm gwaed i yw'r wir ddiod. Y mae'r sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. Y Tad byw a'm hanfonodd i, ac yr wyf fi'n byw oherwydd y Tad; felly'n union bydd y sawl sy'n fy mwyta i yn byw o'm herwydd innau. Dyma'r bara a ddisgynnodd o'r nef. Nid yw hwn fel y bara a fwytaodd yr hynafiaid; buont hwy farw. Caiff y sawl sy'n bwyta'r bara hwn fyw am byth.” Dywedodd Iesu y pethau hyn wrth ddysgu yn y synagog yng Nghapernaum.
Darllen Ioan 6
Gwranda ar Ioan 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 6:47-59
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos