Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 6:25-59

Ioan 6:25-59 BCND

Fe'i cawsant ef yr ochr draw i'r môr, ac meddent wrtho, “Rabbi, pryd y daethost ti yma?” Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, yr ydych yn fy ngheisio i, nid am ichwi weld arwyddion, ond am ichwi fwyta'r bara a chael digon. Gweithiwch, nid am y bwyd sy'n darfod, ond am y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol. Mab y Dyn a rydd hwn ichwi, oherwydd arno ef y mae Duw y Tad wedi gosod sêl ei awdurdod.” Yna gofynasant iddo, “Beth sydd raid inni ei wneud i gyflawni'r gweithredoedd a fyn Duw?” Atebodd Iesu, “Dyma'r gwaith a fyn Duw: eich bod yn credu yn yr un y mae ef wedi ei anfon.” “Os felly,” meddent wrtho, “pa arwydd a wnei di, i ni gael gweld a chredu ynot? Beth fedri di ei wneud? Cafodd ein hynafiaid fanna i'w fwyta yn yr anialwch, fel y mae'n ysgrifenedig, ‘Rhoddodd iddynt fara o'r nef i'w fwyta.’ ” Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid Moses sydd wedi rhoi'r bara o'r nef ichwi, ond fy Nhad sydd yn rhoi ichwi y gwir fara o'r nef. Oherwydd bara Duw yw'r hwn sy'n disgyn o'r nef ac yn rhoi bywyd i'r byd.” Dywedasant wrtho ef, “Syr, rho'r bara hwn inni bob amser.” Meddai Iesu wrthynt, “Myfi yw bara'r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy'n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy'n credu ynof fi. Ond fel y dywedais wrthych, yr ydych chwi wedi fy ngweld, ac eto nid ydych yn credu. Bydd pob un y mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo'r sawl sy'n dod ataf fi. Oherwydd yr wyf wedi disgyn o'r nef nid i wneud fy ewyllys fy hun ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i. Ac ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i yw hyn: nad wyf i golli neb o'r rhai y mae ef wedi eu rhoi imi, ond fy mod i'w hatgyfodi yn y dydd olaf. Oherwydd ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy'n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol. A byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.” Yna dechreuodd yr Iddewon rwgnach amdano oherwydd iddo ddweud, “Myfi yw'r bara a ddisgynnodd o'r nef.” “Onid hwn,” meddent, “yw Iesu fab Joseff? Yr ydym ni'n adnabod ei dad a'i fam. Sut y gall ef ddweud yn awr, ‘Yr wyf wedi disgyn o'r nef’?” Atebodd Iesu hwy, “Peidiwch â grwgnach ymhlith eich gilydd. Ni all neb ddod ataf fi heb i'r Tad a'm hanfonodd i ei dynnu; a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf. Y mae'n ysgrifenedig yn y proffwydi: ‘Fe gânt oll eu dysgu gan Dduw.’ Y mae pob un a wrandawodd ar y Tad ac a ddysgodd ganddo yn dod ataf fi. Nid bod neb wedi gweld y Tad, ac eithrio'r hwn sydd oddi wrth Dduw; y mae hwnnw wedi gweld y Tad. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae gan y sawl sy'n credu fywyd tragwyddol. Myfi yw bara'r bywyd. Bwytaodd eich hynafiaid y manna yn yr anialwch, ac eto buont farw. Ond dyma'r bara sy'n disgyn o'r nef, er mwyn i rywun gael bwyta ohono a pheidio â marw. Myfi yw'r bara bywiol hwn a ddisgynnodd o'r nef. Caiff pwy bynnag sy'n bwyta o'r bara hwn fyw am byth. A'r bara sydd gennyf fi i'w roi yw fy nghnawd; a'i roi a wnaf dros fywyd y byd.” Yna dechreuodd yr Iddewon ddadlau'n daer â'i gilydd, gan ddweud, “Sut y gall hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?” Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, oni fwytewch gnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, ni bydd gennych fywyd ynoch. Y mae gan y sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol, a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf. Oherwydd fy nghnawd i yw'r gwir fwyd, a'm gwaed i yw'r wir ddiod. Y mae'r sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. Y Tad byw a'm hanfonodd i, ac yr wyf fi'n byw oherwydd y Tad; felly'n union bydd y sawl sy'n fy mwyta i yn byw o'm herwydd innau. Dyma'r bara a ddisgynnodd o'r nef. Nid yw hwn fel y bara a fwytaodd yr hynafiaid; buont hwy farw. Caiff y sawl sy'n bwyta'r bara hwn fyw am byth.” Dywedodd Iesu y pethau hyn wrth ddysgu yn y synagog yng Nghapernaum.