Felly daeth i dref yn Samaria o'r enw Sychar, yn agos i'r darn tir a roddodd Jacob i'w fab Joseff. Yno yr oedd ffynnon Jacob, a chan fod Iesu wedi blino ar ôl ei daith eisteddodd i lawr wrth y ffynnon. Yr oedd hi tua hanner dydd. Dyma wraig o Samaria yn dod yno i dynnu dŵr. Meddai Iesu wrthi, “Rho i mi beth i'w yfed.” Yr oedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dref i brynu bwyd. A dyma'r wraig o Samaria yn dweud wrtho, “Sut yr wyt ti, a thithau'n Iddew, yn gofyn am rywbeth i'w yfed gennyf fi, a minnau'n wraig o Samaria?” (Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu'r un llestri â'r Samariaid.) Atebodd Iesu hi, “Pe bait yn gwybod beth yw rhodd Duw, a phwy sy'n gofyn iti, ‘Rho i mi beth i'w yfed’, ti fyddai wedi gofyn iddo ef a byddai ef wedi rhoi i ti ddŵr bywiol.”
Darllen Ioan 4
Gwranda ar Ioan 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 4:5-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos