Meddai Iesu wrthynt, “Fy mwyd i yw gwneud ewyllys yr hwn a'm hanfonodd, a gorffen y gwaith a roddodd i mi. Oni fyddwch chwi'n dweud, ‘Pedwar mis eto, ac yna daw'r cynhaeaf’? Ond dyma fi'n dweud wrthych, codwch eich llygaid ac edrychwch ar y meysydd, oherwydd y maent yn wyn ac yn barod i'w cynaeafu. Eisoes y mae'r medelwr yn derbyn ei dâl ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol, ac felly bydd yr heuwr a'r medelwr yn cydlawenhau. Yn hyn o beth y mae'r dywediad yn wir: ‘Y mae un yn hau ac un arall yn medi.’ Anfonais chwi i fedi cynhaeaf nad ydych wedi llafurio amdano. Eraill sydd wedi llafurio, a chwithau wedi cerdded i mewn i'w llafur.”
Darllen Ioan 4
Gwranda ar Ioan 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 4:34-38
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos