“Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rwy'n gweld dy fod ti'n broffwyd. Yr oedd ein hynafiaid yn addoli ar y mynydd hwn. Ond yr ydych chwi'r Iddewon yn dweud mai yn Jerwsalem y mae'r man lle dylid addoli.” “Cred fi, wraig,” meddai Iesu wrthi, “y mae amser yn dod pan na fyddwch yn addoli'r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem. Yr ydych chwi'r Samariaid yn addoli heb wybod beth yr ydych yn ei addoli. Yr ydym ni'n gwybod beth yr ydym yn ei addoli, oherwydd oddi wrth yr Iddewon y mae iachawdwriaeth yn dod. Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli'r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae'r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. Ysbryd yw Duw, a rhaid i'w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” Meddai'r wraig wrtho, “Mi wn fod y Meseia” (ystyr hyn yw Crist) “yn dod. Pan ddaw ef, bydd yn mynegi i ni bob peth.” Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw, sef yr un sy'n siarad â thi.”
Darllen Ioan 4
Gwranda ar Ioan 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 4:19-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos