Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 4:1-30

Ioan 4:1-30 BCND

Pan ddeallodd Iesu fod y Phariseaid wedi clywed ei fod ef yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan (er nad Iesu ei hun, ond ei ddisgyblion, fyddai'n bedyddio), gadawodd Jwdea ac aeth yn ôl i Galilea. Ac yr oedd yn rhaid iddo fynd trwy Samaria. Felly daeth i dref yn Samaria o'r enw Sychar, yn agos i'r darn tir a roddodd Jacob i'w fab Joseff. Yno yr oedd ffynnon Jacob, a chan fod Iesu wedi blino ar ôl ei daith eisteddodd i lawr wrth y ffynnon. Yr oedd hi tua hanner dydd. Dyma wraig o Samaria yn dod yno i dynnu dŵr. Meddai Iesu wrthi, “Rho i mi beth i'w yfed.” Yr oedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dref i brynu bwyd. A dyma'r wraig o Samaria yn dweud wrtho, “Sut yr wyt ti, a thithau'n Iddew, yn gofyn am rywbeth i'w yfed gennyf fi, a minnau'n wraig o Samaria?” (Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu'r un llestri â'r Samariaid.) Atebodd Iesu hi, “Pe bait yn gwybod beth yw rhodd Duw, a phwy sy'n gofyn iti, ‘Rho i mi beth i'w yfed’, ti fyddai wedi gofyn iddo ef a byddai ef wedi rhoi i ti ddŵr bywiol.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “nid oes gennyt ddim i dynnu dŵr, ac y mae'r pydew'n ddwfn. O ble, felly, y mae gennyt y ‘dŵr bywiol’ yma? A wyt ti'n fwy na Jacob, ein tad ni, a roddodd y pydew inni, ac a yfodd ohono, ef ei hun a'i feibion a'i anifeiliaid?” Atebodd Iesu hi, “Bydd pawb sy'n yfed o'r dŵr hwn yn profi syched eto; ond pwy bynnag sy'n yfed o'r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o'i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rho'r dŵr hwn i mi, i'm cadw rhag sychedu a dal i ddod yma i dynnu dŵr.” Dywedodd Iesu wrthi, “Dos adref, galw dy ŵr a thyrd yn ôl yma.” “Nid oes gennyf ŵr,” atebodd y wraig. Meddai Iesu wrthi, “Dywedaist y gwir wrth ddweud, ‘Nid oes gennyf ŵr.’ Oherwydd fe gefaist bump o wŷr, ac nid gŵr i ti yw'r dyn sydd gennyt yn awr. Yr wyt wedi dweud y gwir am hyn.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rwy'n gweld dy fod ti'n broffwyd. Yr oedd ein hynafiaid yn addoli ar y mynydd hwn. Ond yr ydych chwi'r Iddewon yn dweud mai yn Jerwsalem y mae'r man lle dylid addoli.” “Cred fi, wraig,” meddai Iesu wrthi, “y mae amser yn dod pan na fyddwch yn addoli'r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem. Yr ydych chwi'r Samariaid yn addoli heb wybod beth yr ydych yn ei addoli. Yr ydym ni'n gwybod beth yr ydym yn ei addoli, oherwydd oddi wrth yr Iddewon y mae iachawdwriaeth yn dod. Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli'r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae'r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. Ysbryd yw Duw, a rhaid i'w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” Meddai'r wraig wrtho, “Mi wn fod y Meseia” (ystyr hyn yw Crist) “yn dod. Pan ddaw ef, bydd yn mynegi i ni bob peth.” Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw, sef yr un sy'n siarad â thi.” Ar hyn daeth ei ddisgyblion yn ôl. Yr oeddent yn synnu ei fod yn siarad â gwraig, ac eto ni ofynnodd neb, “Beth wyt ti'n ei geisio?” neu “Pam yr wyt yn siarad â hi?” Gadawodd y wraig ei hystên ac aeth i ffwrdd i'r dref, ac meddai wrth y bobl yno, “Dewch i weld dyn a ddywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud. A yw'n bosibl mai hwn yw'r Meseia?” Daethant allan o'r dref a chychwyn tuag ato ef.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan 4:1-30