Trodd Pedr, a gwelodd y disgybl yr oedd Iesu'n ei garu yn eu canlyn—yr un oedd wedi pwyso'n ôl ar fynwes Iesu yn ystod y swper, ac wedi gofyn iddo, “Arglwydd, pwy yw'r un sy'n mynd i'th fradychu di?” Pan welodd Pedr hwn, felly, gofynnodd i Iesu, “Arglwydd, beth am hwn?” Atebodd Iesu ef, “Os byddaf yn dymuno iddo ef aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti? Canlyn di fi.” Aeth y gair yma ar led ymhlith ei ddilynwyr, a thybiwyd nad oedd y disgybl hwnnw i farw. Ond ni ddywedodd Iesu wrtho nad oedd i farw, ond, “Os byddaf yn dymuno iddo aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti?” Hwn yw'r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac sydd wedi ysgrifennu'r pethau hyn. Ac fe wyddom ni fod ei dystiolaeth ef yn wir.
Darllen Ioan 21
Gwranda ar Ioan 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 21:20-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos