Ond yr oedd Mair yn dal i sefyll y tu allan i'r bedd, yn wylo. Wrth iddi wylo felly, plygodd i edrych i mewn i'r bedd, a gwelodd ddau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle'r oedd corff Iesu wedi bod yn gorwedd, un wrth y pen a'r llall wrth y traed. Ac meddai'r rhain wrthi, “Wraig, pam yr wyt ti'n wylo?” Atebodd hwy, “Y maent wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd, ac ni wn i lle y maent wedi ei roi i orwedd.” Wedi iddi ddweud hyn, troes yn ei hôl, a gwelodd Iesu'n sefyll yno, ond heb sylweddoli mai Iesu ydoedd. “Wraig,” meddai Iesu wrthi, “pam yr wyt ti'n wylo? Pwy yr wyt yn ei geisio?” Gan feddwl mai'r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, “Os mai ti, syr, a'i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe'i cymeraf fi ef i'm gofal.” Meddai Iesu wrthi, “Mair.” Troes hithau, ac meddai wrtho yn iaith yr Iddewon, “Rabbwni” (hynny yw, Athro). Meddai Iesu wrthi, “Paid â glynu wrthyf, oherwydd nid wyf eto wedi esgyn at y Tad. Ond dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, ‘Yr wyf yn esgyn at fy Nhad i a'ch Tad chwi, fy Nuw i a'ch Duw chwi.’ ” Ac aeth Mair Magdalen i gyhoeddi'r newydd i'r disgyblion. “Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd,” meddai, ac eglurodd ei fod wedi dweud y geiriau hyn wrthi.
Gyda'r nos ar y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, yr oedd y drysau wedi eu cloi lle'r oedd y disgyblion, oherwydd eu bod yn ofni'r Iddewon. A dyma Iesu'n dod ac yn sefyll yn eu canol, ac yn dweud wrthynt, “Tangnefedd i chwi!” Wedi dweud hyn, dangosodd ei ddwylo a'i ystlys iddynt. Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion. Meddai Iesu wrthynt eilwaith, “Tangnefedd i chwi! Fel y mae'r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.” Ac wedi dweud hyn, anadlodd arnynt a dweud: “Derbyniwch yr Ysbryd Glân. Os maddeuwch bechodau rhywun, y maent wedi eu maddau; os peidiwch â'u maddau, y maent heb eu maddau.”
Nid oedd Thomas, a elwir Didymus, un o'r Deuddeg, gyda hwy pan ddaeth Iesu atynt. Ac felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho, “Yr ydym wedi gweld yr Arglwydd.” Ond meddai ef wrthynt, “Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a'm llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth.” Ac ymhen wythnos, yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tŷ, a Thomas gyda hwy. A dyma Iesu'n dod, er bod y drysau wedi eu cloi, ac yn sefyll yn y canol a dweud, “Tangnefedd i chwi!” Yna meddai wrth Thomas, “Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a'i rhoi yn fy ystlys. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun.” Atebodd Thomas ef, “Fy Arglwydd a'm Duw!” Dywedodd Iesu wrtho, “Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld.”