Aeth yn ei ôl i mewn i'r Praetoriwm, a gofynnodd i Iesu, “O ble'r wyt ti'n dod?” Ond ni roddodd Iesu ateb iddo. Dyma Pilat felly yn gofyn iddo, “Onid wyt ti am siarad â mi? Oni wyddost fod gennyf awdurdod i'th ryddhau di, a bod gennyf awdurdod hefyd i'th groeshoelio di?” Atebodd Iesu ef, “Ni fyddai gennyt ddim awdurdod arnaf fi oni bai ei fod wedi ei roi iti oddi uchod. Gan hynny, y mae'r hwn a'm trosglwyddodd i ti yn euog o bechod mwy.”
Darllen Ioan 19
Gwranda ar Ioan 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 19:9-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos