Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 15:15-25

Ioan 15:15-25 BCND

Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, oherwydd nid yw'r gwas yn gwybod beth y mae ei feistr yn ei wneud. Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion, oherwydd yr wyf wedi gwneud yn hysbys i chwi bob peth a glywais gan fy Nhad. Nid chwi a'm dewisodd i, ond myfi a'ch dewisodd chwi, a'ch penodi i fynd allan a dwyn ffrwyth, ffrwyth sy'n aros. Ac yna, fe rydd y Tad i chwi beth bynnag a ofynnwch ganddo yn fy enw i. Dyma'r gorchymyn yr wyf yn ei roi i chwi: carwch eich gilydd. “Os yw'r byd yn eich casáu chwi, fe wyddoch ei fod wedi fy nghasáu i o'ch blaen chwi. Pe baech yn perthyn i'r byd, byddai'r byd yn caru'r eiddo'i hun. Ond gan nad ydych yn perthyn i'r byd, oherwydd i mi eich dewis chwi allan o'r byd, y mae'r byd yn eich casáu chwi. Cofiwch y gair a ddywedais i wrthych: ‘Nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr.’ Os erlidiasant fi, fe'ch erlidiant chwithau; os cadwasant fy ngair i, fe gadwant yr eiddoch chwithau. Fe wnânt hyn oll i chwi o achos fy enw i, am nad ydynt yn adnabod yr hwn a'm hanfonodd i. Pe buaswn i heb ddod a llefaru wrthynt, ni buasai ganddynt bechod. Ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod. Y mae'r sawl sy'n fy nghasáu i yn casáu fy Nhad hefyd. Pe na buaswn wedi gwneud gweithredoedd yn eu plith na wnaeth neb arall, ni buasai ganddynt bechod. Ond yn awr y maent wedi gweld, ac wedi casáu fy Nhad a minnau. Ond rhaid oedd cyflawni'r gair sy'n ysgrifenedig yn eu Cyfraith hwy: ‘Y maent wedi fy nghasáu heb achos.’

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan 15:15-25