“Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i. Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth, Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd. Ni adawaf chwi'n amddifad; fe ddof yn ôl atoch chwi. Ymhen ychydig amser, ni bydd y byd yn fy ngweld i ddim mwy, ond byddwch chwi'n fy ngweld, fy mod yn fyw; a byw fyddwch chwithau hefyd. Yn y dydd hwnnw byddwch chwi'n gwybod fy mod i yn fy Nhad, a'ch bod chwi ynof fi, a minnau ynoch chwithau. Pwy bynnag y mae fy ngorchmynion i ganddo, ac sy'n eu cadw hwy, yw'r un sy'n fy ngharu i. A'r un sy'n fy ngharu i, fe'i cerir gan fy Nhad, a byddaf finnau yn ei garu, ac yn f'amlygu fy hun iddo.” Meddai Jwdas wrtho (nid Jwdas Iscariot), “Arglwydd, beth sydd wedi digwydd i beri dy fod yn mynd i'th amlygu dy hun i ni, ac nid i'r byd?” Atebodd Iesu ef: “Os yw rhywun yn fy ngharu, bydd yn cadw fy ngair i, a bydd fy Nhad yn ei garu, ac fe ddown ato a gwneud ein trigfa gydag ef.
Darllen Ioan 14
Gwranda ar Ioan 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 14:15-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos