Nid wyf yn siarad amdanoch i gyd. Yr wyf fi'n gwybod pwy a ddewisais. Ond y mae'n rhaid i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: ‘Y mae'r un sy'n bwyta fy mara i wedi codi ei sawdl yn f'erbyn.’ Yr wyf fi'n dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu, pan ddigwydd, mai myfi yw. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae'r sawl sy'n derbyn unrhyw un a anfonaf fi yn fy nerbyn i, ac y mae'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i.”
Wedi iddo ddweud hyn, cynhyrfwyd ysbryd Iesu a thystiodd fel hyn: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod un ohonoch yn mynd i'm bradychu i.” Dechreuodd y disgyblion edrych ar ei gilydd, yn methu dyfalu am bwy yr oedd yn sôn. Yr oedd un o'i ddisgyblion, yr un yr oedd Iesu'n ei garu, yn nesaf ato ef wrth y bwrdd. A dyma Simon Pedr yn rhoi arwydd i hwn i holi Iesu am bwy yr oedd yn sôn. A dyma'r disgybl hwnnw yn pwyso'n ôl ar fynwes Iesu ac yn gofyn iddo, “Pwy yw ef, Arglwydd?” Atebodd Iesu, “Yr un y gwlychaf y tamaid yma o fara a'i roi iddo, hwnnw yw ef.” Yna gwlychodd y tamaid a'i roi i Jwdas fab Simon Iscariot. Ac yn dilyn ar hyn, aeth Satan i mewn i hwnnw. Meddai Iesu wrtho, “Yr hyn yr wyt yn ei wneud, brysia i'w gyflawni.” Nid oedd neb o'r cwmni wrth y bwrdd yn deall pam y dywedodd hynny wrtho. Gan mai yng ngofal Jwdas yr oedd y god arian, tybiodd rhai fod Iesu wedi dweud wrtho, “Pryn y pethau y mae arnom eu heisiau at yr ŵyl”, neu am roi rhodd i'r tlodion. Yn union wedi cymryd y tamaid bara aeth Jwdas allan. Yr oedd hi'n nos.
Ar ôl i Jwdas fynd allan dywedodd Iesu, “Yn awr y mae Mab y Dyn wedi ei ogoneddu, a Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef. Ac os yw Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef, bydd Duw yntau yn ei ogoneddu ef ynddo'i hun, ac yn ei ogoneddu ar unwaith. Fy mhlant, am ychydig amser eto y byddaf gyda chwi; fe chwiliwch amdanaf, a'r hyn a ddywedais wrth yr Iddewon, yr wyf yn awr yn ei ddweud wrthych chwi hefyd, ‘Ni allwch chwi ddod lle'r wyf fi'n mynd.’ Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd. Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.”
Meddai Simon Pedr wrtho, “Arglwydd, i ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd Iesu ef, “Lle'r wyf fi'n mynd, ni elli di ar hyn o bryd fy nghanlyn, ond fe fyddi'n fy nghanlyn maes o law.” “Arglwydd,” gofynnodd Pedr iddo, “pam na allaf dy ganlyn yn awr? Fe roddaf fy einioes drosot.” Atebodd Iesu, “A roddi dy einioes drosof? Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, ni chân y ceiliog cyn iti fy ngwadu i dair gwaith.