Ar drothwy gŵyl y Pasg, yr oedd Iesu'n gwybod fod ei awr wedi dod, iddo ymadael â'r byd hwn a mynd at y Tad. Yr oedd wedi caru'r rhai oedd yn eiddo iddo yn y byd, ac fe'u carodd hyd yr eithaf. Yn ystod swper, pan oedd y diafol eisoes wedi gosod yng nghalon Jwdas fab Simon Iscariot y bwriad i'w fradychu ef, dyma Iesu, ac yntau'n gwybod bod y Tad wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef, a'i fod wedi dod oddi wrth Dduw a'i fod yn mynd at Dduw, yn codi o'r swper ac yn rhoi ei wisg o'r neilltu, yn cymryd tywel ac yn ei glymu am ei ganol. Yna tywalltodd ddŵr i'r badell, a dechreuodd olchi traed y disgyblion, a'u sychu â'r tywel oedd am ei ganol. Daeth at Simon Pedr yn ei dro, ac meddai ef wrtho, “Arglwydd, a wyt ti am olchi fy nhraed i?” Atebodd Iesu ef: “Ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf fi am ei wneud, ond fe ddoi i wybod ar ôl hyn.” Meddai Pedr wrtho, “Ni chei di olchi fy nhraed i byth.” Atebodd Iesu ef, “Os na chaf dy olchi di, nid oes lle iti gyda mi.” “Arglwydd,” meddai Simon Pedr wrtho, “nid fy nhraed yn unig, ond golch fy nwylo a'm pen hefyd.” Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'r sawl sydd wedi ymolchi drosto yn lân i gyd, ac nid oes arno angen golchi dim ond ei draed. Ac yr ydych chwi yn lân, ond nid pawb ohonoch.” Oherwydd gwyddai pwy oedd am ei fradychu. Dyna pam y dywedodd, “Nid yw pawb ohonoch yn lân.”
Wedi iddo olchi eu traed, ac ymwisgo a chymryd ei le unwaith eto, gofynnodd iddynt, “A ydych yn deall beth yr wyf wedi ei wneud i chwi? Yr ydych chwi'n fy ngalw i yn ‘Athro’ ac yn ‘Arglwydd’, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd dyna wyf fi. Os wyf fi, felly, a minnau'n Arglwydd ac yn Athro, wedi golchi eich traed chwi, fe ddylech chwithau hefyd olchi traed eich gilydd. Yr wyf wedi rhoi esiampl i chwi; yr ydych chwithau i wneud fel yr wyf fi wedi ei wneud i chwi. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr, ac nid yw'r un a anfonir yn fwy na'r un a'i hanfonodd. Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gweithredwch arnynt.