Er iddo wneud cynifer o arwyddion yng ngŵydd y bobl, nid oeddent yn credu ynddo. Cyflawnwyd felly y gair a ddywedodd y proffwyd Eseia: “Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym? I bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?” O achos hyn ni allent gredu, oherwydd dywedodd Eseia beth arall: “Y mae ef wedi dallu eu llygaid, ac wedi tywyllu eu deall, rhag iddynt weld â'u llygaid, a deall â'u meddwl, a throi'n ôl, i mi eu hiacháu.” Dywedodd Eseia hyn am iddo weld ei ogoniant; amdano ef yr oedd yn llefaru. Eto i gyd fe gredodd llawer hyd yn oed o'r llywodraethwyr ynddo ef; ond o achos y Phariseaid ni fynnent ei arddel, rhag iddynt gael eu torri allan o'r synagog. Dewisach oedd ganddynt glod gan bobl na chlod gan Dduw. Cyhoeddodd Iesu: “Y mae'r sawl sy'n credu ynof fi yn credu nid ynof fi ond yn yr un a'm hanfonodd i. Ac y mae'r sawl sy'n fy ngweld i yn gweld yr un a'm hanfonodd i. Yr wyf fi wedi dod i'r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy'n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch. Os yw rhywun yn clywed fy ngeiriau i ac yn gwrthod eu cadw, nid myfi sy'n ei farnu, oherwydd ni ddeuthum i farnu'r byd ond i achub y byd. Y mae gan y sawl sy'n fy ngwrthod i, ac yn peidio â derbyn fy ngeiriau, un sydd yn ei farnu. Bydd y gair hwnnw a leferais i yn ei farnu yn y dydd olaf. Oherwydd nid ohonof fy hunan y lleferais, ond y Tad ei hun, hwnnw a'm hanfonodd i, sydd wedi rhoi gorchymyn i mi beth a ddywedaf a beth a lefaraf. A gwn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn yr wyf fi'n ei lefaru, felly, rwy'n ei lefaru yn union fel y mae'r Tad wedi dweud wrthyf.”
Darllen Ioan 12
Gwranda ar Ioan 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 12:37-50
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos