A chymerodd Mair fesur o ennaint costfawr, nard pur, ac eneiniodd draed Iesu a'u sychu â'i gwallt. A llanwyd y tŷ gan bersawr yr ennaint. A dyma Jwdas Iscariot, un o'i ddisgyblion, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, “Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chant o ddarnau arian, a'i roi i'r tlodion?” Ond fe ddywedodd hyn, nid am fod gofal ganddo am y tlodion, ond am mai lleidr ydoedd, yn cymryd o'r cyfraniadau yn y god arian oedd yn ei ofal. “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu, “er mwyn iddi gadw'r ddefod ar gyfer dydd fy nghladdedigaeth. Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond nid wyf fi gyda chwi bob amser.”
Darllen Ioan 12
Gwranda ar Ioan 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 12:3-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos