Trannoeth, clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i'r ŵyl fod Iesu'n dod i Jerwsalem. Cymerasant ganghennau o'r palmwydd ac aethant allan i'w gyfarfod, gan weiddi: “Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel.” Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae'n ysgrifenedig: “Paid ag ofni, ferch Seion; wele dy frenin yn dod, yn eistedd ar ebol asen.” Ar y cyntaf ni ddeallodd y disgyblion ystyr y pethau hyn, ond wedi i Iesu gael ei ogoneddu, cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt eu gwneud iddo. Yr oedd y dyrfa, a oedd gydag ef pan alwodd Lasarus o'r bedd a'i godi o blith y meirw, yn tystiolaethu am hynny. Dyna pam yr aeth tyrfa'r ŵyl i'w gyfarfod—yr oeddent wedi clywed am yr arwydd yma yr oedd wedi ei wneud. Gan hynny, dywedodd y Phariseaid wrth ei gilydd, “Edrychwch, nid ydych yn llwyddo o gwbl. Aeth y byd i gyd ar ei ôl ef.”
Darllen Ioan 12
Gwranda ar Ioan 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 12:12-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos