Pan glywodd Iesu, meddai, “Nid yw'r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo.” Yn awr yr oedd Iesu'n caru Martha a'i chwaer a Lasarus. Ac wedi clywed ei fod ef yn wael, arhosodd am ddau ddiwrnod yn y fan lle'r oedd. Ac wedyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.” “Rabbi,” meddai'r disgyblion wrtho, “gynnau yr oedd yr Iddewon yn ceisio dy labyddio. Sut y gelli fynd yn ôl yno?” Atebodd Iesu: “Onid oes deuddeg awr mewn diwrnod? Os yw rhywun yn cerdded yng ngolau dydd, nid yw'n baglu, oherwydd y mae'n gweld golau'r byd hwn. Ond os yw rhywun yn cerdded yn y nos, y mae'n baglu, am nad oes golau ganddo.” Ar ôl dweud hyn meddai wrthynt, “Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno, ond yr wyf yn mynd yno i'w ddeffro.”
Darllen Ioan 11
Gwranda ar Ioan 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 11:4-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos