Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 11:32-44

Ioan 11:32-44 BCND

A phan ddaeth Mair i'r fan lle'r oedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed ac meddai wrtho, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw.” Wrth ei gweld hi'n wylo, a'r Iddewon oedd wedi dod gyda hi hwythau'n wylo, cynhyrfwyd ysbryd Iesu gan deimlad dwys. “Ble'r ydych wedi ei roi i orwedd?” gofynnodd. “Tyrd i weld, syr,” meddant wrtho. Torrodd Iesu i wylo. Yna dywedodd yr Iddewon, “Gwelwch gymaint yr oedd yn ei garu ef.” Ond dywedodd rhai ohonynt, “Oni allai hwn, a agorodd lygaid y dall, gadw'r dyn yma hefyd rhag marw?” Dan deimlad dwys drachefn, daeth Iesu at y bedd. Ogof ydoedd, a maen yn gorwedd ar ei thraws. “Symudwch y maen,” meddai Iesu. A dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud wrtho, “Erbyn hyn, syr, y mae'n drewi; y mae yma ers pedwar diwrnod.” “Oni ddywedais wrthyt,” meddai Iesu wrthi, “y cait weld gogoniant Duw, dim ond iti gredu?” Felly symudasant y maen. A chododd Iesu ei lygaid i fyny a dweud, “O Dad, rwy'n diolch i ti am wrando arnaf. Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd.” Ac wedi dweud hyn, gwaeddodd â llais uchel, “Lasarus, tyrd allan.” Daeth y dyn a fu farw allan, a'i draed a'i ddwylo wedi eu rhwymo â llieiniau, a chadach am ei wyneb. Dywedodd Iesu wrthynt, “Datodwch ei rwymau, a gadewch iddo fynd.”

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan 11:32-44