Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 11:1-57

Ioan 11:1-57 BCND

Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Lasarus yn wael. Yr oedd yn byw ym Methania, pentref Mair a'i chwaer Martha. Mair oedd y ferch a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, a sychu ei draed â'i gwallt; a'i brawd hi, Lasarus, oedd yn wael. Anfonodd y chwiorydd, felly, neges at Iesu: “Y mae dy gyfaill, syr, yma'n wael.” Pan glywodd Iesu, meddai, “Nid yw'r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo.” Yn awr yr oedd Iesu'n caru Martha a'i chwaer a Lasarus. Ac wedi clywed ei fod ef yn wael, arhosodd am ddau ddiwrnod yn y fan lle'r oedd. Ac wedyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.” “Rabbi,” meddai'r disgyblion wrtho, “gynnau yr oedd yr Iddewon yn ceisio dy labyddio. Sut y gelli fynd yn ôl yno?” Atebodd Iesu: “Onid oes deuddeg awr mewn diwrnod? Os yw rhywun yn cerdded yng ngolau dydd, nid yw'n baglu, oherwydd y mae'n gweld golau'r byd hwn. Ond os yw rhywun yn cerdded yn y nos, y mae'n baglu, am nad oes golau ganddo.” Ar ôl dweud hyn meddai wrthynt, “Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno, ond yr wyf yn mynd yno i'w ddeffro.” Dywedodd y disgyblion wrtho, “Arglwydd, os yw'n huno fe gaiff ei wella.” Ond at ei farwolaeth ef yr oedd Iesu wedi cyfeirio, a hwythau'n meddwl mai siarad am hun cwsg yr oedd. Felly dywedodd Iesu wrthynt yn blaen, “Y mae Lasarus wedi marw. Ac er eich mwyn chwi yr wyf yn falch nad oeddwn yno, er mwyn ichwi gredu. Ond gadewch inni fynd ato.” Ac meddai Thomas, a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, “Gadewch i ninnau fynd hefyd, i farw gydag ef.” Pan gyrhaeddodd yno, cafodd Iesu fod Lasarus eisoes yn ei fedd ers pedwar diwrnod. Yr oedd Bethania yn ymyl Jerwsalem, ryw dri chilomedr oddi yno. Ac yr oedd llawer o'r Iddewon wedi dod at Martha a Mair i'w cysuro ar golli eu brawd. Pan glywodd Martha fod Iesu yn dod, aeth i'w gyfarfod; ond eisteddodd Mair yn y tŷ. Dywedodd Martha wrth Iesu, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw. A hyd yn oed yn awr, mi wn y rhydd Duw i ti beth bynnag a ofynni ganddo.” Dywedodd Iesu wrthi, “Fe atgyfoda dy frawd.” “Mi wn,” meddai Martha wrtho, “y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti'n credu hyn?” “Ydwyf, Arglwydd,” atebodd hithau, “yr wyf fi'n credu mai tydi yw'r Meseia, Mab Duw, yr Un sy'n dod i'r byd.” Wedi iddi ddweud hyn, aeth ymaith a galw ei chwaer Mair a dweud wrthi o'r neilltu, “Y mae'r Athro wedi cyrraedd, ac y mae am dy weld.” Pan glywodd Mair hyn, cododd ar frys a mynd ato ef. Nid oedd Iesu wedi dod i mewn i'r pentref eto, ond yr oedd yn dal yn y fan lle'r oedd Martha wedi ei gyfarfod. Pan welodd yr Iddewon, a oedd gyda hi yn y tŷ yn ei chysuro, fod Mair wedi codi ar frys a mynd allan, aethant ar ei hôl gan dybio ei bod hi'n mynd at y bedd, i wylo yno. A phan ddaeth Mair i'r fan lle'r oedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed ac meddai wrtho, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw.” Wrth ei gweld hi'n wylo, a'r Iddewon oedd wedi dod gyda hi hwythau'n wylo, cynhyrfwyd ysbryd Iesu gan deimlad dwys. “Ble'r ydych wedi ei roi i orwedd?” gofynnodd. “Tyrd i weld, syr,” meddant wrtho. Torrodd Iesu i wylo. Yna dywedodd yr Iddewon, “Gwelwch gymaint yr oedd yn ei garu ef.” Ond dywedodd rhai ohonynt, “Oni allai hwn, a agorodd lygaid y dall, gadw'r dyn yma hefyd rhag marw?” Dan deimlad dwys drachefn, daeth Iesu at y bedd. Ogof ydoedd, a maen yn gorwedd ar ei thraws. “Symudwch y maen,” meddai Iesu. A dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud wrtho, “Erbyn hyn, syr, y mae'n drewi; y mae yma ers pedwar diwrnod.” “Oni ddywedais wrthyt,” meddai Iesu wrthi, “y cait weld gogoniant Duw, dim ond iti gredu?” Felly symudasant y maen. A chododd Iesu ei lygaid i fyny a dweud, “O Dad, rwy'n diolch i ti am wrando arnaf. Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd.” Ac wedi dweud hyn, gwaeddodd â llais uchel, “Lasarus, tyrd allan.” Daeth y dyn a fu farw allan, a'i draed a'i ddwylo wedi eu rhwymo â llieiniau, a chadach am ei wyneb. Dywedodd Iesu wrthynt, “Datodwch ei rwymau, a gadewch iddo fynd.” Felly daeth llawer o'r Iddewon, y rhai oedd wedi dod at Mair a gweld beth yr oedd Iesu wedi ei wneud, i gredu ynddo. Ond aeth rhai ohonynt i ffwrdd at y Phariseaid a dweud wrthynt beth yr oedd Iesu wedi ei wneud. Am hynny galwodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid gyfarfod o'r Sanhedrin, a dywedasant: “Beth yr ydym am ei wneud? Y mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion. Os gadawn iddo barhau fel hyn, bydd pawb yn credu ynddo, ac fe ddaw'r Rhufeiniaid a chymryd oddi wrthym ein teml a'n cenedl hefyd.” Ond dyma un ohonynt, Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud wrthynt: “Nid ydych chwi'n deall dim. Nid ydych yn sylweddoli mai mantais i chwi fydd i un dyn farw dros y bobl, yn hytrach na bod y genedl gyfan yn cael ei difodi.” Nid ohono'i hun y dywedodd hyn, ond proffwydo yr oedd, ac yntau'n archoffeiriad y flwyddyn honno, fod Iesu'n mynd i farw dros y genedl, ac nid dros y genedl yn unig ond hefyd er mwyn casglu plant Duw oedd ar wasgar, a'u gwneud yn un. O'r diwrnod hwnnw, felly, gwnaethant gynllwyn i'w ladd ef. Am hynny, peidiodd Iesu mwyach â mynd oddi amgylch yn agored ymhlith yr Iddewon. Aeth i ffwrdd oddi yno i'r wlad sydd yn ymyl yr anialwch, i dref a elwir Effraim, ac arhosodd yno gyda'i ddisgyblion. Yn awr yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth llawer i fyny i Jerwsalem o'r wlad cyn y Pasg, ar gyfer defod eu puredigaeth. Ac yr oeddent yn chwilio am Iesu, ac yn sefyll yn y deml a dweud wrth ei gilydd, “Beth dybiwch chwi? Nad yw ef ddim yn dod i'r ŵyl?” Ac er mwyn iddynt ei ddal, yr oedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi rhoi gorchmynion, os oedd rhywun yn gwybod lle'r oedd ef, ei fod i'w hysbysu hwy.