Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a aeth i ganlyn Iesu ar ôl gwrando ar Ioan. Y peth cyntaf a wnaeth hwn oedd cael hyd i'w frawd, Simon, a dweud wrtho, “Yr ydym wedi darganfod y Meseia” (hynny yw, o'i gyfieithu, Crist). Daeth ag ef at Iesu. Edrychodd Iesu arno a dywedodd, “Ti yw Simon fab Ioan; dy enw fydd Ceffas” (enw a gyfieithir Pedr). Trannoeth, penderfynodd Iesu ymadael a mynd i Galilea. Cafodd hyd i Philip, ac meddai wrtho, “Canlyn fi.” Gŵr o Bethsaida, tref Andreas a Pedr, oedd Philip. Cafodd Philip hyd i Nathanael a dweud wrtho, “Yr ydym wedi darganfod y gŵr yr ysgrifennodd Moses yn y Gyfraith amdano, a'r proffwydi hefyd, Iesu fab Joseff o Nasareth.”
Darllen Ioan 1
Gwranda ar Ioan 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 1:40-45
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos