Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 1:29-51

Ioan 1:29-51 BCND

Trannoeth gwelodd Iesu'n dod tuag ato, a dywedodd, “Dyma Oen Duw, sy'n cymryd ymaith bechod y byd! Hwn yw'r un y dywedais i amdano, ‘Ar f'ôl i y mae gŵr yn dod sydd wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.’ Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond deuthum i yn bedyddio â dŵr er mwyn hyn, iddo ef gael ei amlygu i Israel.” A thystiodd Ioan fel hyn: “Gwelais yr Ysbryd yn disgyn o'r nef fel colomen, ac fe arhosodd arno ef. Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond yr un a'm hanfonodd i fedyddio â dŵr, dywedodd ef wrthyf, ‘Pwy bynnag y gweli di'r Ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwn yw'r un sy'n bedyddio â'r Ysbryd Glân.’ Yr wyf finnau wedi gweld ac wedi dwyn tystiolaeth mai Mab Duw yw hwn.” Trannoeth yr oedd Ioan yn sefyll eto gyda dau o'i ddisgyblion, ac wrth wylio Iesu'n cerdded heibio meddai, “Dyma Oen Duw!” Clywodd ei ddau ddisgybl ef yn dweud hyn, ac aethant i ganlyn Iesu. Troes Iesu, ac wrth eu gweld yn canlyn, dywedodd wrthynt, “Beth yr ydych yn ei geisio?” Dywedasant wrtho, “Rabbi,” (ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Athro) “ble'r wyt ti'n aros?” Dywedodd wrthynt, “Dewch i weld.” Felly aethant a gweld lle'r oedd yn aros; a'r diwrnod hwnnw arosasant gydag ef. Yr oedd hi tua phedwar o'r gloch y prynhawn. Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a aeth i ganlyn Iesu ar ôl gwrando ar Ioan. Y peth cyntaf a wnaeth hwn oedd cael hyd i'w frawd, Simon, a dweud wrtho, “Yr ydym wedi darganfod y Meseia” (hynny yw, o'i gyfieithu, Crist). Daeth ag ef at Iesu. Edrychodd Iesu arno a dywedodd, “Ti yw Simon fab Ioan; dy enw fydd Ceffas” (enw a gyfieithir Pedr). Trannoeth, penderfynodd Iesu ymadael a mynd i Galilea. Cafodd hyd i Philip, ac meddai wrtho, “Canlyn fi.” Gŵr o Bethsaida, tref Andreas a Pedr, oedd Philip. Cafodd Philip hyd i Nathanael a dweud wrtho, “Yr ydym wedi darganfod y gŵr yr ysgrifennodd Moses yn y Gyfraith amdano, a'r proffwydi hefyd, Iesu fab Joseff o Nasareth.” Dywedodd Nathanael wrtho, “A all dim da ddod o Nasareth?” “Tyrd i weld,” ebe Philip wrtho. Gwelodd Iesu Nathanael yn dod tuag ato, ac meddai amdano, “Dyma Israeliad gwerth yr enw, heb ddim twyll ynddo.” Gofynnodd Nathanael iddo, “Sut yr wyt yn f'adnabod i?” Atebodd Iesu ef: “Gwelais di cyn i Philip alw arnat, pan oeddit dan y ffigysbren.” “Rabbi,” meddai Nathanael wrtho, “ti yw Mab Duw, ti yw Brenin Israel.” Atebodd Iesu ef: “A wyt yn credu oherwydd i mi ddweud wrthyt fy mod wedi dy weld dan y ffigysbren? Cei weld pethau mwy na hyn.” Ac meddai wrtho, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cewch weld y nef wedi agor, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.”

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan 1:29-51