Dyma dystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid ato i ofyn iddo, “Pwy wyt ti?” Addefodd ac ni wadodd, a dyma a addefodd: “Nid myfi yw'r Meseia.” Yna gofynasant iddo: “Beth, ynteu? Ai ti yw Elias?” “Nage,” meddai. “Ai ti yw'r Proffwyd?” “Nage,” atebodd eto. Ar hynny dywedasant wrtho, “Pwy wyt ti? Rhaid i ni roi ateb i'r rhai a'n hanfonodd ni. Beth sydd gennyt i'w ddweud amdanat dy hun?” “Myfi,” meddai, “yw “ ‘Llais un yn galw yn yr anialwch: “Unionwch ffordd yr Arglwydd” ’— “fel y dywedodd y proffwyd Eseia.” Yr oeddent wedi eu hanfon gan y Phariseaid, a holasant ef a gofyn iddo, “Pam, ynteu, yr wyt yn bedyddio, os nad wyt ti na'r Meseia nac Elias na'r Proffwyd?” Atebodd Ioan hwy: “Yr wyf fi'n bedyddio â dŵr, ond y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych chwi'n ei adnabod, yr un sy'n dod ar f'ôl i, nad wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandal.” Digwyddodd hyn ym Methania, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle'r oedd Ioan yn bedyddio.
Darllen Ioan 1
Gwranda ar Ioan 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 1:19-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos