Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 49

49
Barn yr ARGLWYDD ar Ammon
1Am yr Ammoniaid, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Onid oes meibion gan Israel?
Onid oes etifedd iddo?
Pam, ynteu, yr etifeddodd Milcom diriogaeth Gad,
a pham y mae ei bobl yn preswylio yn ninasoedd Israel?
2Am hynny, y mae'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,
“y paraf glywed utgorn rhyfel yn erbyn Rabba'r Ammoniaid,
a bydd yn garnedd anghyfannedd,
a llosgir ei phentrefi â thân;
yna difreinia Israel y rhai a'i difreiniodd hi,”
medd yr ARGLWYDD.
3“Uda, Hesbon, oherwydd anrheithiwyd Ai;
gwaeddwch, ferched Rabba,
gwisgwch wregys o sachliain,
galarwch, rhedwch gan rwygo eich cyrff#49:3 Felly Aramaeg; cymh. 48:37. Hebraeg, eich cloddiau.;
canys â Milcom i gaethglud
ynghyd â'i offeiriaid a'i benaethiaid.
4Pam yr ymffrosti yn dy ddyffrynnoedd?#49:4 Tebygol. Hebraeg, yn y dyffrynnoedd? Dy ddyffryn a lifa.
O ferch anffyddlon, sy'n ymddiried yn ei thrysorau cudd,
ac yn dweud, ‘Pwy a ddaw yn fy erbyn?’
5Yr wyf yn dwyn arswyd arnat,”
medd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd,
“rhag pawb sydd o'th amgylch;
fe'ch gyrrir allan, bob un ar ei gyfer,
ac ni bydd neb i gynnull y ffoaduriaid.
6Ac wedi hynny adferaf lwyddiant yr Ammoniaid,” medd yr ARGLWYDD.
Barn yr ARGLWYDD ar Edom
7Am Edom, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:
“Onid oes doethineb mwyach yn Teman?
A ddifethwyd cyngor o blith y deallus,
ac a fethodd eu doethineb hwy?
8Ffowch, trowch eich cefn, trigwch mewn cilfachau,
chwi breswylwyr Dedan;
canys dygaf drychineb Esau arno
pan gosbaf ef.
9Pe dôi cynaeafwyr gwin atat,
yn ddiau gadawent loffion grawn;
pe dôi lladron liw nos,
nid ysbeilient ond yr hyn a'u digonai.
10Ond yr wyf fi wedi llwyr ddinoethi Esau;
datguddiais ei fannau cudd,
ac nid oes ganddo unman i ymguddio.
Difethwyd ei blant a'i dylwyth a'i gymdogion,
ac nid ydynt mwyach.
11Gad dy rai amddifaid; fe'u cadwaf yn fyw;
bydded i'th weddwon ymddiried ynof fi.”
12Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; “Wele, y rhai ni ddyfarnwyd iddynt yfed o'r cwpan, bu raid iddynt yfed. A ddihengi di yn ddigerydd? Na wnei, ond bydd raid i tithau yfed. 13Canys tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “y bydd Bosra yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch ac yn felltith, a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch oesol.”
14Clywais genadwri gan yr ARGLWYDD;
anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd:
“Ymgasglwch, dewch yn ei herbyn,
codwch i'r frwydr.
15Canys wele, gwnaf di'n fach ymysg y cenhedloedd,
yn ddirmygedig ymhlith pobloedd.
16Y mae'r arswyd a beraist wedi dy dwyllo;
gwnaeth dy galon yn falch.
Tydi sy'n trigo yn holltau'r graig
ac yn glynu wrth grib y bryniau,
er i ti osod dy nyth cyn uched â'r eryr,
fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD.
17“Bydd Edom yn anghyfannedd, a phawb sy'n mynd heibio yn arswydo, gan synnu oherwydd ei holl glwyfau. 18Fel pan ddinistriwyd Sodom a Gomorra a'u cymdogion,” medd yr ARGLWYDD, “ni fydd neb yn aros nac yn ymweld â hi. 19Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, ymlidiaf hwy ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i? 20Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Edom, a'i gynlluniau yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau, fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn ddiau, bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid. 21Fe gryn y ddaear gan sŵn eu cwymp; clywir eu cri wrth y Môr Coch. 22Ie, bydd un yn codi, yn ehedeg fel eryr, ac yn lledu ei adenydd yn erbyn Bosra; a bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.”
Barn yr ARGLWYDD ar Ddamascus
23Am Ddamascus.
“Gwaradwyddwyd Hamath ac Arpad,
canys clywsant newydd drwg;
cynhyrfir hwy gan bryder,
fel y môr na ellir ei dawelu.
24Llesgaodd Damascus, a throdd i ffoi;
goddiweddodd dychryn hi,
a gafaelodd cryndod a gwasgfa ynddi fel mewn gwraig wrth esgor.
25Mor wrthodedig#49:25 Felly Fwlgat. Hebraeg, anwrthodedig. yw dinas moliant,
caer llawenydd#49:25 Felly Groeg. Hebraeg, fy llawenydd.!
26Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd, a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
27“Mi gyneuaf dân ym mur Damascus,
ac fe ddifa lysoedd Ben-hadad.”
Barn ar Dylwyth Cedar a Dinas Hasor
28Am Cedar, a theyrnasoedd Hasor, y rhai a drawyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Codwch, esgynnwch yn erbyn Cedar;
anrheithiwch bobl y dwyrain.
29Cymerir ymaith eu pebyll a'u diadellau,
llenni eu pebyll, a'u celfi i gyd;
dygir eu camelod oddi arnynt,
a bloeddir wrthynt, ‘Dychryn ar bob llaw!’
30Ffowch, rhedwch ymhell; trigwch mewn cilfachau,
chwi breswylwyr Hasor,” medd yr ARGLWYDD;
“oherwydd gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon gynllwyn,
a lluniodd gynllun yn eich erbyn.
31Codwch, esgynnwch yn erbyn y genedl ddiofal,
sy'n byw'n ddiogel,” medd yr ARGLWYDD,
“heb ddorau na barrau iddi,
a'i phobl yn byw iddynt eu hunain.
32Bydd eu camelod yn anrhaith,
a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail;
gwasgaraf tua phob gwynt
y rhai sydd â'u talcennau'n foel;
o bob cyfeiriad dygaf arnynt eu dinistr,” medd yr ARGLWYDD.
33“Bydd Hasor yn gynefin siacaliaid,
ac yn anghyfannedd byth;
ni fydd neb yn byw ynddi,
nac unrhyw un yn aros yno.”
Barn yr ARGLWYDD ar Elam
34Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia am Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda: 35“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:
‘Yr wyf am dorri bwa Elam,
eu cadernid pennaf hwy.
36Dygaf ar Elam bedwar gwynt, o bedwar cwr y nefoedd;
gwasgaraf hwy tua'r holl wyntoedd hyn;
ni bydd cenedl na ddaw ffoaduriaid Elam ati.
37Canys gyrraf ar Elam ofn o flaen eu gelynion
ac o flaen y rhai sy'n ceisio'u heinioes;
dygaf arnynt ddinistr, sef angerdd fy nigofaint,’ medd yr ARGLWYDD.
‘Gyrraf y cleddyf ar eu hôl,
nes i mi eu llwyr ddifetha.
38A gosodaf fy ngorseddfainc yn Elam,
a difa oddi yno y brenin a'r swyddogion,’ medd yr ARGLWYDD.
39“Ond yn y dyddiau diwethaf mi adferaf lwyddiant Elam,” medd yr ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

Jeremeia 49: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda