Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 46

46
Trechu'r Aifft yn Carchemis
1Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynglŷn â'r cenhedloedd, 2am yr Aifft, ynglŷn â lluoedd Pharo Necho brenin yr Aifft pan oeddent yn Carchemis yn ymyl yr Ewffrates, wedi i Nebuchadnesar brenin Babilon eu gorchfygu yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:
3“Cymerwch fwcled a tharian,
ewch yn eich blaen i'r frwydr.
4Cenglwch y ceffylau,
marchogwch y meirch,
safwch yn barod, pawb â'i helm,
gloywch eich gwaywffyn,
gwisgwch eich llurigau.
5Beth a welaf? Y maent mewn braw,
ciliant yn ôl, lloriwyd eu cedyrn;
ffoesant ar ffrwst, heb edrych yn ôl;
dychryn ar bob llaw!” medd yr ARGLWYDD.
6“Ni all y buan ffoi,
na'r cadarn ddianc;
tua'r gogledd ar lan yr Ewffrates
y baglant ac y syrthiant.
7“Pwy yw hon sy'n codi fel y Neil,
fel afonydd â'u dyfroedd yn dygyfor?
8Yr Aifft sy'n codi fel y Neil,
fel afonydd â'u dyfroedd yn dygyfor.
Ac meddai, ‘Fe godaf a gorchuddio'r ddaear;
dinistriaf bob dinas a'i thrigolion.’
9Ymlaen, chwi feirch;
rhuthrwch, chwi gerbydau rhyfel.
Allan, chwi wŷr cedyrn—
Ethiopiaid a gwŷr Put, sy'n dwyn tarian;
gwŷr o Lydia, sy'n arfer tynnu bwa.
10Hwn yw dydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd,
dydd dialedd i ddial ar ei elynion.
Ysa'r cleddyf nes syrffedu;
meddwa ar eu gwaed.
Canys bydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd yn cynnal aberth
yng ngwlad y gogledd, wrth afon Ewffrates.
11Dos i fyny i Gilead, a chymer falm,
O wyryf, ferch yr Aifft;
yn ofer y cymeraist gyffuriau lawer,
canys ni fydd gwellhad i ti.
12Fe glyw'r cenhedloedd am dy waradwydd,
ac y mae dy waedd yn llenwi'r ddaear;
cadarn yn syrthio yn erbyn cadarn,
a'r ddau'n cwympo gyda'i gilydd.”
Dyfodiad Nebuchadnesar
13Dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth y proffwyd Jeremeia pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon ar ddod i daro gwlad yr Aifft:
14“Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch yn Migdol,
hysbyswch yn Noff ac yn Tahpanhes;
dywedwch, ‘Saf, a bydd barod,
canys y mae cleddyf yn ysu o'th amgylch.’
15Pam yr ysgubwyd Apis#46:15 Felly Groeg. Hebraeg heb Apis. ymaith,
a pham na ddaliodd dy darw ei dir?
Yr ARGLWYDD a'i bwriodd i lawr.
16Parodd i luoedd faglu a syrthio
y naill yn erbyn y llall.
Dywedasant, ‘Cyfodwch,
dychwelwn at ein pobl,
i wlad ein genedigaeth,
rhag cleddyf y gorthrymwr.’
17Rhowch yn enw ar Pharo brenin yr Aifft,
‘Y Broliwr a gollodd ei gyfle’.
18Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd y Brenin—
ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw—
“fe ddaw, fel Tabor ymhlith y mynyddoedd,
a Charmel uwchlaw'r môr.
19Casgla iti becyn ar gyfer caethglud,
ti, drigiannydd yr Aifft;
canys bydd Noff yn anghyfannedd;
fe'i difethir, a bydd heb breswylydd.
20“Heffer gyda'r brydferthaf yw'r Aifft,
ond daeth cleren o'r gogledd arni.
21Yr oedd ei milwyr cyflog yn ei chanol
fel lloi pasgedig;
a throesant hwythau hefyd ymaith,
a ffoi ynghyd, heb oedi;
canys daeth dydd eu gofid arnynt,
ac awr eu cosbi.
22Y mae ei sŵn fel sarff yn hisian#46:22 Felly Groeg. Hebraeg, yn mynd ymaith.,
canys daeth y gelyn yn llu,
daeth yn ei herbyn â bwyeill;
fel rhai yn cymynu coed,
23torrant i lawr ei choedydd,” medd yr ARGLWYDD.
“Canys ni ellir eu rhifo;
y maent yn amlach eu rhif na locustiaid,
heb rifedi arnynt.
24Cywilyddir merch yr Aifft,
a'i rhoi yng ngafael pobl y gogledd.”
Yr ARGLWYDD yn Gwaredu ei Bobl
25Dywedodd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, “Byddaf yn cosbi Thebes, a Pharo a'r Aifft, a'i duwiau a'i brenhinoedd, Pharo a'r rhai sy'n ymddiried ynddo. 26Rhof hwy yng ngafael y rhai sy'n ceisio'u heinioes, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael ei weision; ac wedi hynny cyfanheddir hi fel o'r blaen,” medd yr ARGLWYDD.
27“Ond tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni;
paid ag arswydo, Israel;
canys dyma fi'n dy achub o bell,
a'th had o wlad eu caethiwed.
Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd;
bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.
28Tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,” medd yr ARGLWYDD,
“canys yr wyf fi gyda thi;
gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd
y gyrrais di atynt;
ond ni wnaf ddiwedd arnat ti.
Disgyblaf di mewn barn,
ni'th adawaf yn ddi-gosb.”

Dewis Presennol:

Jeremeia 46: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda