Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 29:1-14

Jeremeia 29:1-14 BCND

Dyma eiriau'r llythyr a anfonodd y proffwyd Jeremeia o Jerwsalem at weddill yr henuriaid yn y gaethglud, a'r offeiriaid a'r proffwydi, ac at yr holl bobl a gaethgludodd Nebuchadnesar o Jerwsalem i Fabilon. Bu hyn wedi i'r Brenin Jechoneia, a'r fam frenhines a'r eunuchiaid, swyddogion Jwda a Jerwsalem, a'r seiri a'r gofaint, adael Jerwsalem. Anfonodd y llythyr trwy law Elasa fab Saffan a Gemareia fab Hilceia, a anfonwyd gan Sedeceia brenin Jwda i Fabilon at Nebuchadnesar brenin Babilon. Dyma ei eiriau: “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘At yr holl gaethglud a gaethgludais o Jerwsalem i Fabilon. Codwch dai a thrigwch ynddynt; plannwch erddi a bwyta o'u ffrwyth; priodwch wragedd, a magu meibion a merched; cymerwch wragedd i'ch meibion a rhoi gwŷr i'ch merched, i fagu meibion a merched; amlhewch yno, ac nid lleihau. Ceisiwch heddwch y ddinas y caethgludais chwi iddi, a gweddïwch drosti ar yr ARGLWYDD, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwi.’ “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y breuddwydion a freuddwydiant. Proffwydant i chwi gelwydd yn f'enw i; nid anfonais hwy,’ medd yr ARGLWYDD. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pan gyflawnir deng mlynedd a thrigain i Fabilon, ymwelaf â chwi a chyflawni fy mwriad daionus tuag atoch, i'ch adfer i'r lle hwn. Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol. Yna galwch arnaf, a dewch i weddïo arnaf, a gwrandawaf arnoch. Fe'm ceisiwch a'm cael; pan chwiliwch â'ch holl galon fe'm cewch,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac adferaf ichwi lwyddiant, a'ch casglu o blith yr holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y gyrrais chwi iddynt,’ medd yr ARGLWYDD; ‘ac fe'ch dychwelaf i'r lle y caethgludwyd chwi ohono.’

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd