Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 18

18
Jeremeia yn Nhŷ'r Crochenydd
1Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: 2“Cod a dos i lawr i dŷ'r crochenydd; yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau.” 3Euthum i lawr i dŷ'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell. 4A difwynwyd yn llaw'r crochenydd y llestr pridd yr oedd yn ei lunio, a gwnaeth ef yr eildro yn llestr gwahanol, fel y gwelai'n dda.
5Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf, 6“Oni allaf fi eich trafod chwi, tŷ Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud â'r clai?” medd yr ARGLWYDD. “Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tŷ Israel. 7Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas. 8Ac os bydd y genedl honno y lleferais yn ei herbyn yn troi oddi wrth ei drygioni, gallaf ailfeddwl am y drwg a fwriedais iddi. 9Ar unrhyw funud gallaf benderfynu adeiladu a phlannu cenedl neu deyrnas, 10ond os gwna'r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi. 11Yn awr dywed wrth bobl Jwda ac wrth breswylwyr Jerwsalem, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n llunio drwg yn eich erbyn, ac yn cynllunio yn eich erbyn. Dychwelwch, yn wir, bob un o'i ffordd ddrwg, a gwella'ch ffyrdd a'ch gweithredoedd.’ 12Ond dywedant hwy, ‘Y mae pethau wedi mynd yn rhy bell. Dilynwn ein bwriadau ein hunain, a gweithredwn bob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus.’ ”
13Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Ymofynnwch ymhlith y cenhedloedd,
pwy a glywodd ddim tebyg i hyn.
Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn.
14A gilia eira Lebanon oddi ar greigiau'r llethrau?
A sychir dyfroedd yr ucheldir#18:14 Tebygol. Hebraeg, A ddiwreiddir dyfroedd dieithr.,
sy'n ffrydiau oerion?
15Ond mae fy mhobl wedi f'anghofio,
ac wedi arogldarthu i dduwiau gau
a barodd iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, yr hen rodfeydd,
a cherdded llwybrau mewn ffyrdd heb eu trin.
16Gwnaethant eu tir yn anghyfannedd,
i rai chwibanu drosto hyd byth;
bydd pob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu,
ac yn ysgwyd ei ben.
17Fel gwynt y dwyrain y chwalaf hwy o flaen y gelyn;
yn nydd eu trychineb dangosaf iddynt fy ngwegil, nid fy wyneb.”
Cynllwyn yn erbyn Jeremeia
18A dywedodd y bobl, “Dewch, gwnawn gynllwyn yn erbyn Jeremeia; ni chiliodd cyfarwyddyd oddi wrth yr offeiriad, na chyngor oddi wrth y doeth, na gair oddi wrth y proffwyd; dewch, gadewch inni ei faeddu â'r tafod, a pheidio ag ystyried yr un o'i eiriau.”
19Ystyria fi, O ARGLWYDD,
a chlyw beth y mae f'achwynwyr yn ei ddweud.
20A ad-delir drwg am dda?
Cloddiasant bwll ar fy nghyfer.
Cofia imi sefyll o'th flaen,
i lefaru'n dda amdanynt
ac i droi ymaith dy ddig oddi wrthynt.
21Am hynny rho'u plant i'r newyn,
lladder hwy trwy rym y cleddyf;
bydded eu gwragedd yn weddwon di-blant,
a'u gwŷr yn farw gelain,
a'u gwŷr ifainc wedi eu taro â'r cleddyf mewn rhyfel.
22Bydded i waedd godi o'u tai,
am i'r ysbeiliwr ddod yn ddisymwth ar eu gwarthaf;
canys cloddiasant bwll i'm dal,
a chuddio maglau i'm traed.
23Ond yr wyt ti, O ARGLWYDD, yn gwybod
am eu holl gynllwyn yn f'erbyn, i'm lladd.
Paid â maddau iddynt eu camwedd,
na dileu eu pechod o'th ŵydd.
Bydded iddynt faglu o'th flaen;
delia â hwy yn awr dy ddigofaint.

Dewis Presennol:

Jeremeia 18: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda