Jeremeia 17
17
Pechod a Chosb Jwda
1“Y mae pechod Jwda wedi ei ysgrifennu â phin haearn,
a'i gerfio â blaen adamant ar lech eu calon,
2ac ar gyrn eu#17:2 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, eich. hallorau i atgoffa eu plant.
Y mae eu hallorau a'u pyst wrth ymyl prennau gwyrddlas ar fryniau uchel,
3yn y mynydd-dir a'r meysydd.
Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith,
yn bris#17:3 Felly 15:13. Hebraeg, yn uchelfeydd. am dy bechod trwy dy holl derfynau.
4Gollyngi o'th afael yr etifeddiaeth a roddais i ti,
a gwnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn gwlad nad adwaenost,
canys yn fy nicter cyneuwyd#17:4 Cymh. llawysgrifau a Fersiynau. TM, cyneuasoch. tân a lysg hyd byth.”
5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Melltigedig fo'r sawl sydd â'i hyder mewn meidrolyn,
ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo,
ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD.
6Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch;
ni fydd yn gweld daioni pan ddaw.
Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch,
mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo.
7Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD,
a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.
8Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd,
yn gwthio'i wreiddiau i'r afon,
heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir;
ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.
9“Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim,
a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi?
10Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galon
ac yn profi cymhellion,
i roi i bawb yn ôl eu ffyrdd
ac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd.”
11Fel petrisen yn crynhoi cywion nas deorodd,
y mae'r sawl sy'n casglu cyfoeth yn anghyfiawn;
yng nghanol ei ddyddiau bydd yn ei adael ef,
a bydd ei ddiwedd yn ei ddangos yn ynfyd.
12Gorsedd ogoneddus, ddyrchafedig o'r dechreuad,
dyna fan ein cysegr ni.
13O ARGLWYDD, gobaith Israel,
gwaradwyddir pawb a'th adawa;
torrir ymaith#17:13 Felly rhai Fersiynau. Hebraeg, ysgrifennir. oddi ar y ddaear y rhai sy'n troi oddi wrthyt#17:13 Tebygol. Hebraeg, wrthyf.,
am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw.
Ceisio Gwaredigaeth
14Iachâ fi, O ARGLWYDD, ac fe'm hiacheir;
achub fi, ac fe'm hachubir;
canys ti yw fy moliant.
15Ie, dywedant wrthyf,
“Ple mae gair yr ARGLWYDD? Deued yn awr!”
16Ond myfi, ni phwysais arnat i'w drygu#17:16 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, rhag bugeilio.,
ac ni ddymunais iddynt y dydd blin.
Gwyddost fod yr hyn a ddaeth o'm genau yn uniawn ger dy fron.
17Paid â bod yn ddychryn i mi;
fy nghysgod wyt ti yn nydd drygfyd.
18Gwaradwydder f'erlidwyr, ac na'm gwaradwydder i;
brawycher hwy, ac na'm brawycher i;
dwg arnynt hwy ddydd drygfyd,
dinistria hwy â dinistr deublyg.
Cadw'r Saboth
19Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: “Dos, a saf ym mhorth Benjamin#17:19 Hebraeg, Meibion y bobl., yr un y mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan trwyddo, ac yn holl byrth Jerwsalem, 20a dywed wrthynt, ‘Clywch air yr ARGLWYDD, O frenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl drigolion Jerwsalem sy'n dod trwy'r pyrth hyn. 21Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwyliwch am eich einioes na ddygwch faich ar y dydd Saboth, na'i gludo trwy byrth Jerwsalem; 22ac na ddygwch faich allan o'ch tai ar y dydd Saboth, na gwneud dim gwaith; ond sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i'ch hynafiaid. 23Ond ni wrandawsant hwy, na gogwyddo clust, ond ystyfnigo rhag gwrando, a rhag derbyn disgyblaeth. 24Er hynny, os gwrandewch yn ddyfal arnaf, medd yr ARGLWYDD, a pheidio â dwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio'r dydd Saboth trwy beidio â gwneud dim gwaith arno, 25yna fe ddaw trwy byrth y ddinas hon frenhinoedd a thywysogion i eistedd ar orsedd Dafydd, ac i deithio mewn cerbydau a marchogaeth ar feirch—hwy a'u tywysogion, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem—a chyfanheddir y ddinas hon hyd byth. 26A daw pobloedd o ddinasoedd Jwda a chwmpasoedd Jerwsalem, a thiriogaeth Benjamin, o'r Seffela a'r mynydd-dir, a'r Negef, gan ddwyn poethoffrymau ac aberthau, bwydoffrwm a thus, ac offrwm diolch i dŷ'r ARGLWYDD. 27Ac os na wrandewch arnaf a sancteiddio'r dydd Saboth, a pheidio â chludo baich wrth ddod i mewn i byrth Jerwsalem ar y dydd Saboth, yna mi gyneuaf dân yn y pyrth hynny, tân a lysg balasau Jerwsalem, heb neb i'w ddiffodd.’ ”
Dewis Presennol:
Jeremeia 17: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004