Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, dŷ Israel. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd,
na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd,
fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.
Y mae arferion y bobloedd fel eilun—
pren wedi ei gymynu o'r goedwig,
gwaith dwylo saer â bwyell;
ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur,
y maent yn ei sicrhau â morthwyl a hoelion, rhag iddo symud.
Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru;
rhaid eu cludo am na allant gerdded.
Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed,
na gwneud da chwaith.”
Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt,
mawr yw dy enw mewn nerth.
Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd?
Hyn sy'n gweddu i ti.
Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd,
ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi.
Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd,
wedi eu dysgu gan eilunod o bren!
Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas,
gwaith y saer a dwylo'r eurych;
a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor—
gwaith crefftwyr ydyw i gyd.
Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw;
ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol;
y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid,
ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter.
Fel hyn y dywedwch wrthynt: “Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe gânt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd.”
Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth,
sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb,
estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall.
Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd,
fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear.
Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai.
Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth.
Cywilyddir pob eurych gan ei eilun,
canys celwydd yw ei ddelwau tawdd,
ac nid oes anadl ynddynt.
Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio;
yn amser eu cosbi fe'u difethir.
Nid yw Duw Jacob fel y rhain,
oherwydd ef yw lluniwr pob peth,
ac Israel yw ei lwyth dewisol.
ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.