Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm; a chyn dy eni, fe'th gysegrais; rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd.” Dywedais innau, “O Arglwydd DDUW, ni wn pa fodd i lefaru, oherwydd bachgen wyf fi.” Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â dweud, ‘Bachgen wyf fi’; oherwydd fe ei at bawb yr anfonaf di atynt, a llefaru pob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag ofni o'u hachos, oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD. Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf
Darllen Jeremeia 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jeremeia 1:4-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos