Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
“Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm;
a chyn dy eni, fe'th gysegrais;
rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd.”
Dywedais innau, “O Arglwydd DDUW, ni wn pa fodd i lefaru, oherwydd bachgen wyf fi.” Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,
“Paid â dweud, ‘Bachgen wyf fi’;
oherwydd fe ei at bawb yr anfonaf di atynt,
a llefaru pob peth a orchmynnaf i ti.
Paid ag ofni o'u hachos,
oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD.
Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,
“Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau.
Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedd
a thros y teyrnasoedd,
i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr,
i ddifetha ac i ddymchwelyd,
i adeiladu ac i blannu.”
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Jeremeia, beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld gwialen almon.” Atebodd yr ARGLWYDD, “Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf fi'n gwylio fy ngair i'w gyflawni.” A daeth gair yr ARGLWYDD ataf yr eildro a dweud, “Beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld crochan yn berwi, a'i ogwydd o'r gogledd.” A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “o'r gogledd yr ymarllwys dinistr dros holl drigolion y tir. Oherwydd dyma fi'n galw holl deuluoedd teyrnas y gogledd,” medd yr ARGLWYDD, “a dônt a gosod bob un ei orsedd ar drothwy pyrth Jerwsalem, yn erbyn ei holl furiau o'u hamgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda; a thraethaf fy marnedigaeth arnynt am eu holl gamwedd yn cefnu arnaf fi, gan arogldarthu i dduwiau eraill, ac addoli gwaith eu dwylo eu hunain.
“Torcha dithau dy wisg; cod a llefara wrthynt bob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag arswydo o'u hachos, rhag i mi dy ddistrywio di o'u blaen. A rhof finnau di heddiw yn ddinas gaerog, yn golofn haearn ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda a'i thywysogion, ei hoffeiriaid a phobl y wlad. Ymladdant yn dy erbyn, ond ni'th orchfygant oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD.