Barnwyr 9
9
Abimelech
1Aeth Abimelech fab Jerwbbaal i Sichem at frodyr ei fam, a dweud wrthynt hwy ac wrth holl dylwyth ei fam, 2“Yr wyf am i chwi ofyn i holl benaethiaid Sichem, ‘Prun sydd orau gennych, cael eich llywodraethu gan yr holl ddeg a thrigain o feibion Jerwbbaal, ynteu cael eich llywodraethu gan un dyn? Cofiwch hefyd fy mod i o'r un asgwrn a chnawd â chwi.’ ” 3Fe siaradodd brodyr ei fam amdano yng nghlyw holl benaethiaid Sichem, a dweud yr holl bethau hyn, ac yr oedd eu calon yn tueddu tuag at Abimelech am eu bod yn meddwl, “Y mae'n frawd i ni.” 4Rhoesant iddo ddeg a thrigain o ddarnau arian o deml Baal-berith, ac â hwy fe gyflogodd Abimelech ddynion ofer a gwyllt i'w ddilyn. 5Aeth i dŷ ei dad yn Offra, a lladd ar yr un maen bob un o'i frodyr, sef deng mab a thrigain Jerwbbaal. Ond arbedwyd Jotham, mab ieuengaf Jerwbbaal, am iddo ymguddio. 6Yna daeth holl benaethiaid Sichem a phawb o Beth-milo ynghyd, a mynd a gwneud Abimelech yn frenin, ger y dderwen a osodwyd i fyny yn Sichem.
7Pan ddywedwyd hyn wrth Jotham, fe aeth ef a sefyll ar gopa Mynydd Garisim a gweiddi'n uchel. Meddai wrthynt, “Gwrandewch arnaf fi, chwi benaethiaid Sichem, er mwyn i Dduw wrando arnoch chwithau. 8Daeth y coed at ei gilydd i eneinio un o'u plith yn frenin. 9Dywedasant wrth yr olewydden, ‘Bydd di yn frenin arnom.’ Ond atebodd yr olewydden, ‘A adawaf fi fy mraster, yr anrhydeddir Duw a dynion trwyddo, a mynd i lywodraethu ar y coed?’ 10Yna dywedodd y coed wrth y ffigysbren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’ 11Atebodd y ffigysbren, ‘A adawaf fi fy melystra a'm ffrwyth hyfryd, a mynd i lywodraethu ar y coed?’ 12Dywedodd y coed wrth y winwydden, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’ 13Ond atebodd y winwydden, ‘A adawaf fi fy ngwin melys, sy'n llonni Duw a dyn, a mynd i lywodraethu ar y coed?’ 14Yna dywedodd yr holl goed wrth y fiaren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’ 15Ac meddai'r fiaren wrth y coed, ‘Os ydych o ddifrif am f'eneinio i yn frenin arnoch, dewch a llochesu yn fy nghysgod. Onid e, fe ddaw tân allan o'r fiaren a difa cedrwydd Lebanon.’
16“Yn awr, a ydych wedi gweithredu'n onest a chydwybodol wrth wneud Abimelech yn frenin? A ydych wedi delio'n deg â Jerwbbaal a'i deulu? Ai'r hyn a haeddai a wnaethoch iddo? 17Oherwydd brwydrodd fy nhad drosoch, a mentro'i einioes a'ch achub o law Midian; 18ond heddiw yr ydych wedi codi yn erbyn tŷ fy nhad a lladd ei feibion, deg a thrigain o wŷr, ar un maen. Yr ydych wedi gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin ar benaethiaid Sichem, am ei fod yn frawd i chwi. 19Os ydych wedi delio'n onest a chydwybodol â Jerwbbaal a'i deulu heddiw, llawenhewch yn Abimelech, a bydded iddo yntau lawenhau ynoch chwi. 20Onid e, aed tân allan o Abimelech a difa penaethiaid Sichem a Beth-milo; hefyd aed tân allan o benaethiaid Sichem a Beth-milo a difa Abimelech.” 21Yna ciliodd Jotham, a ffoi i Beer ac aros yno, o gyrraedd ei frawd Abimelech.
22Wedi i Abimelech deyrnasu am dair blynedd ar Israel, 23anfonodd Duw ysbryd cynnen rhwng Abimelech a phenaethiaid Sichem, a throesant yn annheyrngar iddo. 24Digwyddodd hyn er mwyn i'r trais a wnaed ar ddeng mab a thrigain Jerwbbaal, a'r tywallt gwaed, ddisgyn ar eu brawd Abimelech, a'u lladdodd, ac ar benaethiaid Sichem, a fu'n ei gynorthwyo i ladd ei frodyr. 25Gosododd penaethiaid Sichem rai ar bennau'r mynyddoedd i wylio amdano; yr oeddent hwy'n ysbeilio pawb a ddôi heibio iddynt ar y ffyrdd, a dywedwyd am hyn wrth Abimelech.
26Pan ddaeth Gaal fab Ebed a'i gymrodyr drosodd i Sichem, enillodd ymddiriedaeth penaethiaid Sichem. 27Wedi iddynt fod allan yn y maes yn cynaeafu eu gwinllannoedd ac yn sathru'r grawnwin, cadwasant ŵyl o lawenydd a mynd i deml eu duw gan fwyta ac yfed, ac yna difenwi Abimelech. 28Ac meddai Gaal fab Ebed, “Pwy yw Abimelech a phwy yw pobl Sichem, fel ein bod ni yn ei wasanaethu ef? Oni ddylai mab Jerwbbaal a'i oruchwyliwr Sebul wasanaethu gwŷr Hemor tad Sichem? Pam y dylem ni ei wasanaethu ef? 29O na fyddai'r bobl yma dan fy awdurdod i! Mi symudwn i Abimelech. Dywedwn#9:29 Felly Groeg. Hebraeg, Dywedodd. wrtho, ‘Cynydda dy fyddin a thyrd allan.’ ” 30Pan glywodd Sebul, goruchwyliwr y ddinas, eiriau Gaal fab Ebed, fe wylltiodd. 31Anfonodd negeswyr at Abimelech i Aruma#9:31 Tebygol. Cymh. adn. 41. Hebraeg, Torma. a dweud, “Edrych, y mae Gaal fab Ebed a'i gymrodyr wedi dod i Sichem, ac yn troi'r dref yn d'erbyn. 32Yn awr, cychwyn di liw nos gyda'r bobl sydd gennyt, ac ymguddia allan yn y wlad; 33yna, yfory ar godiad haul, gwna gyrch cynnar ar y dref, a phan ddaw ef a'r bobl sydd gydag ef allan i'th gyfarfod, gwna dithau iddo orau y medri.” 34Cychwynnodd Abimelech a'r holl bobl oedd gydag ef liw nos, ac ymguddio yn bedair mintai yn erbyn Sichem. 35Pan aeth Gaal fab Ebed allan a sefyll ym mynediad porth y dref, cododd Abimelech a'r dynion oedd gydag ef o'u cuddfan. 36Gwelodd Gaal y bobl a dywedodd wrth Sebul, “Edrych, y mae pobl yn dod i lawr o gopaon y mynyddoedd.” Ond dywedodd Sebul wrtho, “Gweld cysgod y mynyddoedd fel pobl yr wyt.” 37Yna dywedodd Gaal eto, “Y mae yna bobl yn dod i lawr o ganol y wlad, ac un fintai'n dod o gyfeiriad Derwen y Swynwyr.” 38Atebodd Sebul, “Ple'n awr, ynteu, y mae dy geg fawr oedd yn dweud, ‘Pwy yw Abimelech, fel ein bod ni yn ei wasanaethu?’ Onid dyma'r fyddin y buost yn ei dilorni? Allan â thi yn awr i ymladd â hi!” 39Arweiniodd Gaal benaethiaid Sichem allan, ac ymladd ag Abimelech. 40Aeth Abimelech ar ei ôl, a ffodd yntau; ond cwympodd llawer yn glwyfedig hyd at fynediad y porth. 41Arhosodd Abimelech yn Aruma, a gyrrwyd Gaal a'i gymrodyr ymaith gan Sebul rhag iddynt aros yn Sichem.
42Trannoeth aeth pobl Sichem allan i'r maes, a hysbyswyd Abimelech. 43Cymerodd yntau fyddin, a'i rhannu'n dair mintai ac ymguddio yn y maes, a phan welodd y bobl yn dod allan o'r dref, cododd yn eu herbyn a'u taro. 44Ymosododd Abimelech a'r fintai#9:44 Felly Groeg. Hebraeg, minteioedd. oedd gydag ef, a sefyll ym mynediad porth y dref, ac yr oedd dwy fintai yn ymosod ar bawb oedd yn y maes ac yn eu taro. 45Brwydrodd Abimelech yn erbyn y dref ar hyd y diwrnod hwnnw, a chipiodd hi a lladd y bobl oedd ynddi. Distrywiodd y dref a'i hau â halen. 46Pan glywodd holl benaethiaid Tŵr Sichem, aethant i ddaeargell teml El-berith. 47Dywedwyd wrth Abimelech fod penaethiaid Tŵr Sichem i gyd wedi ymgasglu, 48ac aeth ef a phawb o'r fyddin oedd gydag ef i Fynydd Salmon. Cymerodd Abimelech un o'r bwyeill#9:48 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, y bwyeill. yn ei law, a thorri cangen o'r coed, a'i chodi a'i gosod ar ei ysgwydd. Yna dywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, “Brysiwch, gwnewch yr un fath â mi.” 49Felly torrodd pob un o'r bobl ei gangen a dilyn Abimelech; rhoesant hwy dros y ddaeargell, a'i llosgi uwch eu pennau. Bu farw pawb oedd yn Nhŵr Sichem, oddeutu mil o wŷr a gwragedd.
50Yna aeth Abimelech i Thebes a gwersyllu yn ei herbyn a'i hennill. 51Yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y dref, a ffodd y gwŷr a'r gwragedd i gyd yno, a holl benaethiaid y dref, a chloi arnynt ac esgyn i do'r tŵr. 52Daeth Abimelech at y tŵr, ac ymladd yn ei erbyn; ac wrth iddo agosáu at fynediad y tŵr i'w losgi, 53taflodd rhyw wraig faen melin i lawr ar ben Abimelech a dryllio'i benglog. 54Ar unwaith galwodd ei lanc, a oedd yn cludo'i arfau, a dweud wrtho, “Tyn dy gleddyf a lladd fi, rhag iddynt ddweud amdanaf mai gwraig a'm lladdodd.” Felly trywanodd ei lanc ef, a bu farw. 55Pan welodd yr Israeliaid fod Abimelech wedi marw, aeth pawb adref. 56Felly y talodd Duw i Abimelech am y drygioni a wnaeth i'w dad trwy ladd ei ddeg brawd a thrigain. 57Hefyd talodd Duw yn ôl holl ddrygioni pobl Sichem, a disgynnodd arnynt felltith Jotham fab Jerwbbaal.
Dewis Presennol:
Barnwyr 9: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004