Daeth angel yr ARGLWYDD ac eistedd dan y dderwen yn Offra, a oedd yn perthyn i Joas yr Abiesriad. Yr oedd ei fab, Gideon, yn dyrnu gwenith mewn gwinwryf, i'w guddio rhag Midian. Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD gyda thi, ŵr dewr.” Atebodd Gideon ef, “Ond, syr, os yw'r ARGLWYDD gyda ni, pam y mae hyn i gyd wedi digwydd inni? A phle mae ei holl ryfeddodau y soniodd ein hynafiaid amdanynt, a dweud wrthym, ‘Oni ddygodd yr ARGLWYDD ni i fyny o'r Aifft?’ Erbyn hyn y mae'r ARGLWYDD wedi'n gadael, a'n rhoi yng ngafael Midian.” Trodd angel yr ARGLWYDD ato a dweud, “Dos, gyda'r nerth hwn sydd gennyt, a gwared Israel o afael Midian; onid wyf fi yn dy anfon?” Atebodd yntau, “Ond, syr, sut y gwaredaf fi Israel? Edrych, fy nhylwyth i yw'r gwannaf yn Manasse, a minnau yw'r distatlaf o'm teulu.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Yn sicr byddaf fi gyda thi, a byddi'n taro'r Midianiaid fel pe baent un gŵr.” Atebodd yntau, “Os cefais ffafr yn d'olwg, yna rho arwydd imi mai ti sy'n siarad â mi. Paid â mynd oddi yma cyn imi ddychwelyd atat a chyflwyno fy offrwm a'i osod o'th flaen.” Atebodd yntau, “Fe arhosaf nes iti ddod yn ôl.” Aeth Gideon a pharatoi myn gafr a phobi bara croyw o beilliaid. Gosododd y cig ar ddysgl a rhoi'r cawl mewn padell, a'u dwyn ato dan y dderwen, a'u cyflwyno. Yna dywedodd angel Duw wrtho, “Cymer y cig a'r bara croyw a'u rhoi ar y graig acw, a thywallt y cawl.” Gwnaeth hynny. Estynnodd angel yr ARGLWYDD flaen y ffon oedd yn ei law, a phan gyffyrddodd â'r cig a'r bara croyw, cododd tân o'r graig a'u llosgi; a diflannodd angel yr ARGLWYDD o'i olwg. Yna fe sylweddolodd Gideon mai angel yr ARGLWYDD oedd, a dywedodd, “Gwae fi, f'Arglwydd DDUW, am imi weld angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb.” Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Heddwch iti; paid ag ofni, ni byddi farw.” Adeiladodd Gideon allor i'r ARGLWYDD yno a'i henwi Jehofa-shalom. Y mae yn Offra Abieser hyd y dydd hwn.
Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Cymer ych o eiddo dy dad, yr ail ych, yr un seithmlwydd, a thyn i lawr yr allor i Baal sydd gan dy dad, a thor i lawr y pren Asera sydd yn ei hymyl. Adeilada allor briodol i'r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y fangre hon; yna cymer yr ail ych a'i offrymu'n boethoffrwm ar goed yr Asera a dorraist i lawr.” Cymerodd Gideon ddeg o'i weision a gwnaeth fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho, ond gan fod arno ofn gwneud hynny liw dydd oherwydd ei deulu a phobl y ddinas, fe'i gwnaeth liw nos. Pan gododd pobl y ddinas yn gynnar yn y bore a gweld allor Baal wedi ei bwrw i lawr a'r pren Asera oedd yn ei hymyl wedi ei thorri, a'r ail ych wedi ei offrymu ar yr allor oedd wedi ei chodi, yna gofynnodd pawb i'w gilydd, “Pwy a wnaeth hyn?” Ar ôl chwilio a holi, dywedasant, “Gideon fab Joas sydd wedi gwneud hyn.” Yna dywedodd pobl y ddinas wrth Joas, “Tyrd â'th fab allan iddo gael marw, oherwydd y mae wedi bwrw i lawr allor Baal a thorri'r pren Asera oedd yn ei hymyl.” Ond meddai Joas wrth bawb oedd yn sefyll o'i gwmpas, “A ydych chwi am ddadlau achos Baal? A ydych chwi am ei achub ef? Rhoir pwy bynnag sy'n dadlau drosto i farwolaeth erbyn y bore. Os yw'n dduw, dadleued drosto'i hun am i rywun fwrw ei allor i lawr.” A'r diwrnod hwnnw galwyd Gideon yn Jerwbbaal—hynny yw, “Bydded i Baal ddadlau ag ef”—am iddo fwrw ei allor i lawr.